Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/246

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei wrteithio. Ymysg y Germaniaid y mae sylw mawr yn cael ei dalu i'r Männerchor—cor meibion, ac y mae eu cyfansoddwyr wedi darparu darnau ar eu cyfer. Cyn y Rhyfel Mawr yr oedd y Sangerfest (gŵyl gerddorol) yn boblogaidd iawn. Yn y gwyliau hyn cyfyngid yr holl waith corawl i'r meibion, a hynny, fel rheol, heb gyfeiliant. Yr oedd hyn yn ddiwylliant lleisiol rhagorol, a cheir canu uwchraddol yn y gwyliau hyn. Ni wn a fynychodd Parry tra yn yr America, rai ohonynt, ond diau iddo ddod i gysylltiad ag amryw o'r cerddorion arweiniai y corau. Cyn dychwelyd i Gymru yr oedd wedi ysgrifennu teleidion i leisiau meibion, ac y maent yn fwy ar ffurf y lied German— aidd nag arddull y canigau Seisnig. Yn yr olaf, yr oedd y rhan uwchaf, neu alawol, wedi ei hysgrifennu i'r male alto. Fe geir esiampl ragorol o hyn yn yr hen rangan "Who comes so dark? ac hefyd yng nghanig Gwilym Gwent, "Gwenau y Gwanwyn." Ymysg rhanganau Parry, yr oedd ei rangan dlos ar eiriau Cuhelyn:

Paham mae dicter, O Myfanwy
Yn llenwi'th lygaid duon di ?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?

Gresyn na fuasai mwy o sylw yn cael ei dalu i ddarnau tlysion o'r fath. Nid oes eu hafal fel diwylliant lleisiol. Dangosant y cain a'r pur—y coeth a'r tyner; a rhoddant i ni o berarogl y gerdd.

Y mae yna ddeffroad amlwg wedi cymryd lle yn ystod y deugain mlynedd diweddaf yn y ffurf gorawdol hon. Nid oes yr un ardal yng Nghymru, bron, heb ei chôr meibion. Yn naturiol fe roddodd hyn symbyliad i'r cyfansoddwyr i bartoi darnau teilwng i'r corau galluog oedd yn y wlad. Ymysg y rhai o'r darnau mwyaf poblogaidd efallai ceir "Iesu o Nasareth," a'r "Pererinion" o eiddo Parry, yr olaf yn eithriadol felly. Yma yr oedd y cyfansoddwr ar ei oreu fel mewn llawer i gyfansoddiad arall o'i eiddo, yma fe'i gwelir ar ei liniau. Y mae yr unawd yn y "Pererinion" yn ysbrydoledig—ffrwd o ymbil ydyw, mewn nodau dreiddia i ddyfnder calon dyn. Y mae y corawd drwyddo yn ddramataidd ac effeithiol. Pwy a