Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/247

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anghofia effaith anorchfygol datganiad côr Pontycymer yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1891? Fe ganwyd yr unawd gan yr hen arwr y diweddar Gwilym Thomas. Fe ddywedai Dr. Parry mai llais Gwilym oedd ganddo yn ei feddwl pan yn ysgrifennu yr unawd.

V.—Y mae cyfansoddiadau cysegredig Parry yn drysorau gwerthfawr i'r genedl. Mor ganadwy, melodaidd, a bugeilgerddol yw ei gerddoriaeth i'r drydedd salm ar hugain, ac fel yr ysgrifennodd yr Athro David Jenkins un tro, "Pa Gymro nad oedd wedi drachtio yn helaeth o'r gwin melys geir yn y deirawd, 'Duw bydd drugarog. Unwaith dangosodd lyfr mawr i mi, a dywedai, "Look here, my boy, I have written more tunes than Dykes." Cofier nid myfiaeth oedd hyn, ond llawenydd plentyn y gerdd. Ond er hynny, credaf ei fod yn gwneuthur camsyniad, oherwydd nid nifer y tonau oedd o'r pwys mawr, ond eu hansawdd a'u gwerth. Dywedai cerddor enwog arall wrthyf un tro ei fod yn mynd i'w study bob dydd ar awr benodol i gyfansoddi, fel petai yr awen yn barod i ddod wrth y cloc. Ond fel y cana Islwyn:

Pan y myn y daw
Fel y sêr dros adfail y cwmwl draw,
Yn llwyr annibynnol ar amser islaw.

Fe greodd poblogrwydd rhai o donau Parry lu o efelychwyr, ac yr oedd ysgol y

yn bur llawn.

Efallai nad oes yr un dôn wedi ei hysgrifennu gan Gymro ag y mae cymaint o ganu arni ag "Aberystwyth." Ymysg y cannoedd troeon y clywais hi, fe saif dau amgylchiad yn glir yn fy nghof. Un tro yr oeddwn yn cerdded yn ymyl Prifathrofa Chicago ar brynhawn tawel. Y mae adeiladau yr athrofa ymhell o ddwndwr a phrysurdeb masnachol y ddinas, ac y mae eu harch-adeiladwaith wedi ei lunio ar ddull colegau Rhydychen. Yn nhŵr y capel y mae clychau soniarus, y rhai a genir bob awr. Yr oedd tawelwch y prynhawn