Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bron yn gyfriniol, ond yn sydyn fe dorrwyd ar y distawrwydd gan seiniau pêr y clychau yn canu y nodau sydd mor gyfarwydd i bob Cymro—y dôn "Aberystwyth." Dro arall, pan ar dro yn yr hen wlad, fe syrthiodd i'm rhan i wrando y dôn yn cael ei chanu gydag arddeliad neilltuol, er mai fel unawd y cenid hi y tro hwnnw, a'r cyfan yn fyrfyfyr.

Yr oedd yn nos Sadwrn y tâl, neu yn ol llafar gwlad, nos Sadwrn y pai. Yr oedd aml i dŷ tafarn yn gwneuthur busnes mawr. Yr oeddwn wedi ymneilltuo am y nos, ac yn mwynhau hun hyfryd, pan y'm deffrowyd gan leisiau yn yr ystryd. Ar ol gwrando ychydig, deëllais mai un dan effaith diod oedd yno, ac wedi camsynied ei dŷ, ac yn ceisio mynd i mewn i'r tŷ nesaf. O'i glywed tu allan i'r drws, dyma wraig y tŷ yn codi, yn mynd allan, ac yn gofyn iddo, "Beth sy arnoch chi?" "O," meddai yntau, Ma nhad a mam wedi 'n'wli mâs o'r tŷ; ma'r gaffer wedi roi y sack i fi; a wa'th na'r cwbwl, ma' ' ngwejan i wedi mynd 'nol arno i." A chyda hyn torrodd allan i ganu nerth ei geg:

Beth sydd i mi yn y byd
Ond gorthrymder mawr o hyd, etc.

Yr oedd y nos mor dawel, fel y gellid yn hawdd glywed ei lais cwynfanus yn diaspedain drwy'r dyffryn.

Er poblogrwydd "Aberystwyth," a'r swyn sydd yn y dôn i'r Cymro, eto nid wyf yn ei hystyried yr un oreu o eiddo Parry. Cyfansoddodd donau rhagorol cyn i "Aberystwyth " gael ei chanu—tonau fel "Llangristiolus," sydd yn llawn o urddas a dyfnder. Yr oedd llwyddiant y tonau hyn yn y cywair lleddf wedi gyrru llawer i gredu mai y lleddf oedd nwyd reddfol y Cymro. Ond y mae digon o brawfion i'r gwrthwyneb mewn tonau fel "Moriah," "Hyfrydol," "Llangoedmor," "Eirinwg," etc.

VI.—Mewn cerddoriaeth gysegredig ei ddau waith mawr yw yr "Emmanuel" a "Saul o Tarsus." Y mae yn ddiddorol i edrych ar y ddau o safbwynt gymhariaethol, ac i nodi awen y cyfansoddwr yn blaguro ac ymddatblygu.

Yn y cyntaf y mae yn dilyn y ffurf fwy neu lai ystrydebol,—unawdau a chorawdau annibynnol, heb ryw lawer o