Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gysylltiad ffurfiol rhyngddynt, oddigerth yn y teimlad sydd yn rhedeg drwy y gwaith. Yn yr ail y mae yna gyfunedd yn y gwahanol olygfeydd mae y cyfan yn gylchau yn y gadwyn.

Gwrthbwyntol i raddau mawr yw un—dramayddol yw y llall. Yn y cyntaf, amlwg yw bod y cyfansoddwr yn edmygydd mawr o Mendelssohn. Gymaint ei edmygedd o gyfansoddwr "Elijah" fel y gwna ddefnydd o alaw o'r gwaith hwnnw fel sylfaen yn ei overture, ac hefyd o'r dôn adnabyddus, "Dusseldorf." Yn "Saul" arddull Wagner sydd yno, ac efelycha Parry y cerddor Germanaidd drwy roi testunau dynodol i'r gwahanol gymeriadau.

Y mae y rhagarweiniad i'r ddau waith yn hollol wahanol. Yn y cyntaf fe gawn overture faith a llafurfawr y gwahanol sylfonau wedi eu gweithio allan yn fanwl—mwy ar ddull yr arweiniad i mewn yn "Elijah," neu'r "Hymn of Praise," nag yn ol ffurf Handel. Yn yr ail ceir tudalen a hanner, ac yna fe ddaw unawd i mewn. Amlwg fod y cyfansoddwr yn efrydu yn barhaus. Ni welir bellach ragarweiniad maith i'r prif weithiau. Cyhoeddir y testun, ac eir ymlaen yn ddiymdroi at y mater, heb ragymadroddi.

Fe geir unawdau rhagorol yn y ddau waith, ac y mae y corawdau yn feistrolgar. Nid oes dim llawer rhagorach mewn llenyddiaeth gorawl Gymreig na'r dull y gweithir y gwrthbwynt, a'r modd y deuir â'r dôn "Moriah" i mewn yn Canwn ganiad newydd" yn yr "Emmanuel." Y mae y cyfansoddwr yn gweu y cwbl gyda llaw sicr: y mae yr edafedd gwrthbwyntol yn rhedeg drwy y gweill gyda rhwyddineb, a'r cyfan yn gwneuthur teisban felodawl ysblennydd. Er yr holl gywreinrwydd y mae pob rhan yn llawn melodi, oherwydd, wedi'r cyfan, dyma'r peth hanfodol. Fe geir gwrthgyferbyniaeth hapus yn y gwaith, a hyfryd ydyw y symudiad bugeilgerddol sydd yn agor y drydedd ran. Fe rydd sain i'r olygfa ar feysydd Bethlehem—rhyw fath ar antiphony rhwng yr angylion a'r bugeiliaid: y llu nefol yn cyhoeddi "Gogoniant yn y goruchaf i Dduw "mewn corawd hyfryd i leisiau benywaidd, a'r bugeiliaid yn ateb: "Ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da" mewn symudiad llawn urddas a defosiwn, yr hwn a roddir i leisiau meibion. Efallai y gallasai y