Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXVII. Dr. Parry o Safbwynt Cerddoriaeth Ddiweddar.

Gan CYRIL JENKINS.

PAN ofynnwyd i mi roddi fy opiniwn ystyriol ar gerddoriaeth Dr. Joseph Parry, a'r dylanwad a gynhyrchodd hi a phersonoliaeth ei chreawdwr ar fywyd artistig Cymru, teimlwn yn hwyrfrydig i wneud. Yn wir, teimlaf eto'n anewyllysgar am y gwn yn dda y bydd i'r hyn sydd gennyf i'w ddywedyd glwyfo teimladau llawer sy'n parchu ei goffadwriaeth ac a ystyriant fy meirniadaeth o'i gerddoriaeth yn gysegr—anrhaith bwriadol. Eto teimlaf y dylasai rhywun ddywedyd yr hyn sydd i'w ddywedyd mor hyglyw a chyhoeddus ag sydd bosibl; ac os na ddywedir ef gennyf fi, yr erys heb ei ddywedyd gan hynny, credaf ei bod yn ddyletswydd arnaf i dderbyn y cyfle a gynhygir i mi, ac i wneuthur popeth yn fy ngallu i ddinistrio'r traddodiad a'r dylanwad a gynhyrchwyd gan Parry, fel na bo i gyfansoddwyr ieuainc Cymru sydd heddyw yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i ynddi ddeuddeng mlynedd yn ol, ddioddef yr anfanteision ddioddefais i, na chael eu mygu ymron gan yr awyrgylch tawchlawn a gwyd o'i gerddoriaeth.

Caniataer i mi ynteu ddywedyd ar unwaith, nad yw cerddoriaeth Parry ar ei goreu ond eilradd, ac ar ei gwaethaf, islaw sylw. Ni wn am un tudalen a ddwg nodau athrylith. Ar y llaw arall gwn am ugeiniau, ie, cannoedd o dudalennau sy'n druenus o wan, mor dlawd mewn syniadau, mor chwerthinllyd o ddiystyr, fel yr wyf wedi bod yn gwrido wrth eu chwarae, am eu bod wedi eu hysgrifennu gan Gymro, a bod fy nghydwladwyr wedi bod yn eu cyfrif, ac yn parhau i'w cyfrif, yn waith ysbrydoledig athrylith. Ni feddai Parry athrylith. Yr cedd ganddo lawer o ddoniau, ond heb yr uchaf oll. Meddai natur wirioneddol gerddorol, dyfeisgarwch ffrwythlon, ffynhonnell o felodi sy'n hyfryd os nad yn wreiddiol, llawer o deimlad dramayddol, a greddf at deimladrwydd rhwydd a hylifol. At