Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn, meddai ddiwydrwydd gwenynen—diwydrwydd a'i gyrrai i gyfansoddi mewn amser ac allan o amser, pryd y buasai'n ddoethach iddo adael i faes ei ddeall i orwedd yn fraenar, ac adfeddiannu ei allu i gynhyrchu. Ei goll mwyaf amlwg oedd diffyg gallu i'w feirniadu ei hunan. Wrth edrych dros ei weithiau teimlaf yn gyson ei fod yn analluogi wahaniaethu rhwng y cyfansoddiadau hynny o'i eiddo sy'n rhesymol dda a'r rhai sy'n wael ddiymwared. Anffawd yw i ddyn fod heb y gallu i'w feirniadu ei hunan; ond y mae iddo fod heb ei feirniadu gan eraill yn drychineb gwirioneddol. Ac ni chafodd Parry erioed ei feirniadu. O'r dechreu i'r diwedd cafodd ei ganmol; ni chodwyd un llais mewn protest; fis ar ol mis, a blwyddyn ar ol blwyddyn cafodd ei ddyrchafu hyd oni chafodd ei hunan o'r diwedd ar droedfainc mewn unigrwydd ysblennydd, wedi ei dwyllo a'i gamarwain gan addoliad ei gydoeswyr, ac heb wybod fod ei gyfansoddiadau'n llygru chwaeth gerddorol hen ac ieuainc, ac yn darostwng greddfau artistig ei gydwladwyr y gallai wneuthur cymaint i'w dyrchafu a'u puro.

Ond nid digon i mi ddywedyd hyn rhaid ei brofi. Wel, y mae y prawf yn y cwbl o'i weithiau mwyaf, ac yn y mwyafrif o'i rai lleiaf. Os dewisaf "Blodwen "i ddangos hyn, ni wnaf hynny am mai'r opera deir-act hon yw'r. waethaf o'i weithiau—mewn rhai ystyron, yn wir hi yw'r oreu—ond am ei bod, y foment yr ysgrifennaf hyn, yn mwynhau prydles newydd ar ei bywyd. Y mae wedi ei hadgyfodi mewn mwy nag un man, ac yn derbyn y clod difeddwl, teimladol hwnnw a ystyriwn ni, y Cymry, yn ddyledus iddi.

Yn awr, y mae cyfyngiadau a meflau "Blodwen mor amlwg ar y wyneb, fel y mae'n syn i mi fod eisiau eu pwyntio allan. Yn gyntaf, y mae'r libretto'n eithriadol o wan, a'r plot yn neilltuol fel y'i gosodir allan yn argument argraffiad 1917, yn dramgwyddus o ddisynnwyr. Nid gwŷr a gwragedd mo'r creaduriaid hyn, Blodwen, Ellen," ""Syr Hywel Ddu," "Arthur o'r Berwyn," a'r gweddill, ond dolls yn cael eu hystercian (jerk) gan fympwy awdur y libretto. Beth bynnag arall oedd Mynyddog, yn sicr nid oedd yn fardd. Nid yw'r geiriau Saesneg gan