yr Athro Rowlands nemawr gwell na dogrel. Dylasai fod yn glir hyd yn oed i'r deall gwannaf na ddylasai un cyfansoddwr ysgrifennu cerddoriaeth i eiriau sydd heb ei gyffwrdd yn nerthol swyddogaeth cyfansoddwr y gân yw mynegi mewn sain hanfod ysbrydol mewnol y farddoniaeth sydd yn ffynhonnell ei ysbrydoliaeth. Ond y mae'n amlwg nad oedd gan Dr. Joseph Parry unrhyw deimlad tuag at libretto Mynyddog, ond un o oddefgarwch natur dda. Y mae'r holl stori'n gelfyddydol a chyffredin; nid oes i'r cymeriadau synnwyr nac ystyr meddylegol; ni ddatblyga'r action allan o ddymuniadau ac angenrheidiau'r bobol a gymer ran, ond yn ol cynllun rhagluniedig yr awdur. Mewn geiriau eraill, gwneir i'r cymeriadau ffitio i'r action. Ni chysyllta Parry nemawr pwys, os dim, â'r diffygion hyn yr oedd y stori'n "brydferth," a dyna i gyd oedd eisiau. Tynghedwyd ef i fod yn analluog i ddeall ystyr barddoniaeth; yr oedd unrhyw eiriau braidd yn ddigon da iddo ef.
Y mae ei overture i "Blodwen" yn ddiystyr—nid yw ond cynifer o farrau o gerddoriaeth isradd a allai ragflaenu unrhyw waith arall gyda'r un priodoldeb. Dechreua'r action gydag ymddangosiad negesydd sydd mewn brys mawr, ond a gân yn hamddenol, mewn tempo moderato amlwg, y nodyn G ddeunaw o weithiau ar ol ei gilydd; yna, gan sylweddoli mor undonog yw hyn, a gwyd dôn gyflawn ac a gân A ddim llai nac ugain o weithiau ar ol ei gilydd; o A naid i C, yr hon a adroddir ddeg o weithiau. Recitative yw hyn, ni a dybiwn, ond math ar recitative ydyw a gân y baban yn ei grud; cyd-red â hi frawddeg ddisgynnol gyflym yn y gerddorfa yr hon a roddir mor aml ag y mae ei heisiau i "lanw i mewn." Ceir yn dilyn yn union, gân gan Arglwyddes Maelor, yn chwe bar cyntaf yr hon yr adroddir brawddeg o saith nodyn bedair o weithiau. A hyn yw "melodi"! Nid yw, yn wir, ond tôn fechan drwsgl a disynnwyr, na fedd, mor bell ag y gwelaf fi, y cysylltiad pellaf â'r geiriau; yn wir gwneir i'r un melodi fynegi teimladau mor wrthwynebol a
Yr awen a ddeffry a'r delyn chwareua,
"Lwc dda" i'r pâr dedwydd mewn dawns ac mewn cân.