Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ffaith ein bod heb gerddorfa sefydlog o'r eiddom ein hunain. Yr ydym ni, y Cymry, yn gyflym i ddysgu, a phe rhoddid i ni'r cyfleustra, byddem yn fuan ochr yn ochr â'r amseroedd. Dywedaf pe rhoddid," ond yr hyn a feddyliaf yw pe cymerem. Rhaid i ni wneuthur ein cyfleustra ein hunain, oblegid gallwn fod yn sicr na roddir mohono i ni.