Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cerddorol y "Caniedydd," a chyda hen gyfeillion fu'n ffyddlon iddo fel Emlyn Jones ac Emlyn Evans. Gwyddai y celai bob sylw a pharch posibl ganddynt hwy, fel y cawsai'n flaenorol; gwyddai hefyd, bid siwr, na chelai farchog hobi'r "tân Cymreig" yn y dewisiad o donau. Efallai ei fod yn tybio y byddai pwyllgor yr enwad yn rhoddi ffordd iddo, ac y dewisid ef yn unig olygydd, yn hytrach na'i adael allan. Bid a fynno am hynny, nid greatness mo hyn, ond bigness. Beth pe gosodasai un o'r golygyddion emynol i lawr y fath amod!

Y mae'n amlwg nad oedd pethau wrth ei fodd, a thrwy ddyfais y gallwyd cael ganddo ganiatau i nifer o'i donau ymddangos yn y "Caniedydd." Yr oedd Elfed wedi addo cyfansoddi libretto opera ar Arthur" iddo, a chredai y medrai orchfygu ystyfnigrwydd Parry â'r drosol honno, os o gwbl. Cadd ganiatâd y pwyllgor i'w threio; aeth i Benarth yn arfog; cafodd dderbyniad gwresog fel arfer gan Parry, ond pan grybwyllodd fater y "Caniedydd," "O! no, no, no, my dear friend, it is quiteout of the question-anything but that." Yna dyma drosol y libretto 'n cael ei rhoi ar waith. Mi ysgrifennaf fi libretto ar Arthur 'i chwi ar yr amod eich bod yn caniatau i ni gael eich tonau i'r 'Caniedydd.' Ac wele, ymollyngodd yr ystyfnigrwydd, llacaodd gïau yr esgusodion heb nemawr i air! Yr hyn a brawf mai'r gydwybod gerddorol (fyfïol) oedd ben yn Parry.

Y gwir yw, na chymerodd Parry mo'i hun mewn llaw o gwbl, i ddarostwng ei fyfiaeth, a disgyblu ei dymer, na hyd yn oed ei alluoedd meddyliol eraill, wedi iddo roddi ei hunan yn "gaethwas bodlon i gerddoriaeth." A chyn hynny, yr oedd braidd yn ieuanc i wneuthur, oddieithr fod ei amgylchfyd yn fwy ffafriol; fel na ddatblygodd ond ychydig os dim i un cyfeiriad ond yr un cerddorol. Nid oedd yn un o dymherau afrywiog y tu allan i gerddoriaeth, ond, fel y dywed ei ferch, yn naturiol siriol a hapus. A'r tu mewn i gerddoriaeth rhaid i ni gofio yr hyn a ddywed Mr. Byng—a ddyfynnwyd eisoes—sef na wyddom faint dioddefaint a hunanorchfygiad ein gilydd. Un naturiol fwyn oedd Mozart, ond gwyddom na fedrai yntau ddioddef ingoedd cerddorol yn hir heb ffrwydro. Wedi dychwelyd