Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/261

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w goleu yn y tunnel, a difyrrwch Parry fyddai ei chwythu allan. Efallai iddo helpu ei hunan-ddisgyblaeth hi felly, ond o brin y gallwn ystyried hynny fel ei amcan.

Ddydd yr Eisteddfod yr oedd yn arferiad gan Emlyn, oblegid ei wendid a'i anallu i fwynhau ei foreubryd, i brynu ychydig luniaeth ysgafn, megis biscuits neu rawnwin, a'i osod ar fwrdd y beirniaid, gan ei gymryd pan ddeuai ysbaid o hamdden. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor (1902) cafodd fantais i fynd allan cyn gorffen o'r grawnwin; yna pan ddaeth yn ol, a'u ceisio, yr unig ateb a gafodd oedd gwên siriol yng nghil llygad Parry. "The man who could digest nails," meddai Emlyn, ond mewn perffaith dymer dda. Eto y treuliwr hoelion a syrthiodd gyntaf!

Ceir cyfuniad o'i ddireidi a'i fyfiaeth yn yr hanes a rydd Mr. D. Jenkins amdanynt adeg Gŵyl y Tri Chôr yn Henffordd, "pan y daeth a full score 'Saul o Tarsus' gydag ef, hyd nes i Emlyn fygwth mynd i'r gegin, a Parry fel plentyn yn addo na wnai son rhagor, ond bore trannoeth yn dod â'r gyfrol fawr a'i gosod ar y bwrdd o'i flaen yn llawn direidi."

Ac am ei fyfiaeth, hogynnaidd hollol ydoedd. Meddai Mr. Jenkins eto: "Mwynhai bopeth a gyfansoddai; siaradai am ei weithiau gyda'r fath frwdfrydedd yn ddiniwed fel plentyn." "Credai ef yn hollol syml fod holl gerddorion ac arweinyddion Cymru wedi eu creu i wasanaethu arno ef." Credai'n gryf yn ei allu i gyfansoddi; i gychwyn ysgol newydd o gerddoriaeth Gymreig; i ddwyn allan Lyfr Tonau Cenedlaethol; ac nid hunan—hyder bach oedd eisiau i alw ei ysgol yn Abertawe'n "Musical College of Wales." Ond tuedda'r fyfiaeth naturiol a hogynnaidd hon i fynd yn anghyfiawn ac anfoesol pan y dibrisia ymdrechion eraill, ac y gwrthyd eu cydnabod. Ni roddodd Parry ffordd i'r duedd yma'n hollol, ac ambell i waith meistrolodd hi; fel y prawf ei ysgrifau yn y "South Wales Weekly News" am 1888, yn y rhai y cydnebydd ei gyd—gerddorion yn galonnog, o'u cymharu a'r ysgrif y dyfynnwyd ohoni tra yr oedd ef yn Aberystwyth, yn yr hon y cyfeiria at ei weithiau ei hun yn bennaf fel prawf o fywyd cerddorol yn y tir. Eto amhosibl peidio condemnio ei waith yn gwrthod gweithredu fel un o bedwar ar bwyllgor