Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd yn llawer mwy o feistr mewn cerddoriaeth, ond gallem ddisgwyl i un fyddai wedi ymddisgyblu i fod yn llednais a glân gyda'i waith cerddorol, i fod yn fwy gofalus a mirain gyda'i ansoddeiriau a'i frawddegau.

Yr oedd ganddo ddychymyg ymarferol bywiog—yn gystal a dychymyg artistig—yr oedd yn llawn dyfeisiau a bwriadau nid yn unig ynglŷn â chyfansoddi, ond ynglŷn â'i goleg, yn gystal a gwerthu a hysbysebu a pherfformio ei weithiau. Ond un peth ydyw i'r gwyddonydd i ffurfio rhagdyb (hypothesis) hanner dwsin ohonynt yn wir—peth arall yw eu gwireddu wrth faen prawf ffeithiau. Ar greigiau ffeithiau ac amgylchiadau yr ai llawer o fwriadau ac anturiaethau Parry hefyd yn ddrylliau, a hynny'n aml oblegid diffyg barn a gofal ymlaen llaw. Ceir enghraifft o hyn mor ddiweddar ag 1897 ynglŷn â'i gyngerdd yn y Palas Grisial. Fel yr awgrymwyd eisoes, bu hwn yn fethiant mewn tri phwynt: (1) rhaglen ry fratiog; (2) cam—ddibyniaeth ar gantorion; ac (3) annibyniaeth ar brofiad rhai cyfarwydd â nodweddion clywiadol y Palas. Bu cyngerdd Mr. D. Jenkins, ar y llaw arall, yn llwyddiant hollol y flwyddyn flaenorol, ond dewisodd ef ei brif waith, "The Psalm of Life," i roddi unoliaeth a chymeriad i'r cyngerdd, a nifer o bethau llai yn fath ar ymylwaith iddo. Yna, yn lle dewis "prif " arweinyddion a phrif" gorau i'w helpu—y rhai na fedrant ganu heb ysbardun cystadlu, neu drip i Lundain, ac a feddyliant fwy am yr olaf nac am ganu—dewisodd arweinyddion a chorau y gallai ymddibynnu ar eu ffyddlondeb, ac ni chafodd ei siomi. Yn olaf, bu'n ddigon call i drefnu'r lleisiau yn unol â chyfarwyddyd rhai cyfarwydd â'r Palas—yr hyn ni wnaeth Parry, gyda menter hunandybus hogyn.

Nid fy lle i yw beirniadu ei waith fel cerddor, ond y mae'n amlwg i'r dyn plaen, mai un peth yw cyfansoddi gwahanol rannau cyfanwaith, peth arall yw eu hunoli a'u gwneuthur yn ddarostyngedig i ystyr yr oll. Ymddengys fod Parry'n ddiffygiol yn y gallu hwn; nodir ef yn y fan hon am ei fod yn perthyn yn agos i'r diffyg "barn" uchod. Ceir yn ei brif weithiau ddiffyg cymesuredd (proportion), a diffyg cysylltiad organaidd a naturiol â'i gilydd ac â'r oll. Dylasai gwahanol rannau