Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfanwaith artistig fod fel canghennau mewn coeden lathraidd, yn tyfu allan yn naturiol ohoni, ac ar yr un pryd yn gosod cyflawnder a harddwch arni, heb ddim gormodedd ar y naill law, na diffyg ar y llaw arall. Ond ceir rhai o'i weithiau ef yn mynd yn fain tua'r diwedd, eraill yn fratiog ac anghysylltiol; ac eraill eto wedi eu crowdio'n ormodol i ddangos ystyr y syniad canolog.

Cwyna'i feirniaid hefyd ei fod ar brydiau'n "aberthu gwreiddioldeb er mwyn poblogrwydd." Efallai bod balchter y bywyd " yn yr ystyr hon yn demtasiwn iddo mewn cyfeiriadau eraill yn ogystal. Pan yn ei hunan— fywgraffiad y geilw berfformiad yn "llwyddiant hollol," anodd gweld pa safon arall a gymhwysa na chymeradwyaeth y dorf. Yna cyfeiria gyda math ar fost at y lluoedd a ddeuai ynghyd i wrando ei waith ef, "y dorf fwyaf o lawer o holl gyfarfodydd yr Eisteddfod." Am yr un rheswm yr oedd yn cysylltu gormod o bwys a'r safonau a berthyn i fachgendod y byd—a dyn, megis graddau a theitlau, fel y gwelsom ynglŷn â'i waith yn dwyn llu o'r rheiny i'w gymeradwyo i swydd gerddorol. Da fuasai gennym ei weld, fel Cherubini ac eraill, yn gwrthod plygu i un eilun mewn ffyddlondeb i'w ddelfryd cerddorol ei hun.

Eto, nid oedd Parry agos mor ddifarn a rhai o'i edmygwyr ar fater y llythrennau. Yn ol Louis Engel yn Temple Bar (1889) ymddangosodd nodyn yn un o bapurau Cymru i'r perwyl fod Dr. Parry'n fwy cerddor na Beethoven, am ei fod ef yn Mus. Doc., a Beethoven heb fod! Y dyddiau diweddaf hyn amheuthyn darllen hysbyseb Eisteddfod yn yr hon y beirniada "Edward Elgar" a "Granville Bantock." Tebyg y gallant hwy wneuthur heb ateg i'w henw!

Nid oes gennym le i dybio fod iddo demtasiwn gref ynglŷn â'r ddau ddosbarth arall o'r "pethau sydd yn y byd," sef cnawdolrwydd a bydolrwydd—fel y mae i lawer o wŷr y gân—yn y blaenaf yn enwedig, ac yn enwedig eto yn y ffurf o ymyfed (er nad oedd yn ddirwestwr). A chyda golwg ar ariangarwch, digon yw dywedyd gyda Mr. Jenkins, ei fod "yn ddibris o arian" wrth eu derbyn yn gystal ag wrth eu gwario. Dyna'n ddiau paham y