Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/270

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nasareth bob tro ni wyddom). Ac y mae'r hanesyn cerddorol olaf sydd gennym amdano'n dal perthynas å'r un gwaith—sef iddo, pan yn mynd dros ran o'r gwaith gyda dau o'i ddisgyblion tua chwech wythnos cyn ei farwolaeth dorri i lawr mewn dagrau pan ddaeth at y geiriau "Mother, behold thy son." Adroddwyd yr hanes gan Mr. Tom Stephens, yr hwn yr arferai Parry ei wahodd i fynd dros ryw ran ag y byddai newydd ei gorffen. Y mae'r hanesyn yn taro nodyn yn natur Parry, y gallwn orffen y braslun hwn—a'r Cofiant, arno, a hynny heb ragrith.

Heblaw y goleuni a deifl yr hanesyn ar deimladrwydd crefyddol Parry, y mae o werth ar ddau gyfrif arall.

(1) Gorffennodd y rhan gyntaf yn ol y copi Tachwedd, 1902, ac y mae'n amlwg ei fod yn gweithio yn nechreu 1903 ar yr ail ran, ac ar adran y Croeshoeliad cyn gorffen yr adrannau blaenorol yn ddiau, gan na cheir mohonynt ymysg ei bapurau (nac yn wir y Croeshoeliad hyd yn hyn).

(2) Cyfeiriai Mr. Stephens at gân Mair wrth y Groes fel un ryfedd o doddedig. Os felly, gan nad oes sôn am y gân hon yn y braslun a roddwyd ar ddiwedd Pennod XX, y mae'n amlwg nad oedd hwnnw ond amlinelliad, a bod Parry'n cyfnewid ac ychwanegu wrth fynd ymlaen.

Mwynhaodd iechyd da drwy ei oes, a disgwyliai ei gyfeillion iddo fyw'n hen, a chael hwyrddydd teg ar y ddaear. Ond fel arall y bu. Mwynhâi ei iechyd arferol hyd tua phythefnos cyn y diwedd, pryd y gwelwyd y byddai'n rhaid galw llaw—feddyg i mewn. Gwnaeth hwnnw ei waith yn llwyddiannus, ac ymddangosai yntau fel yn gwella; eithr oherwydd gwenwyno'r gwaed siomwyd gobeithion ei ffrindiau ac ehedodd ei ysbryd awengar i'w fyd ei hun Chwefror 17, 1903. Gallesid braidd ychwanegu "ar edyn cân," oblegid medrodd ganu, neu yn hytrach, ni fedrodd beidio canu yn ei ddyddiau olaf. Fel y bu'n ddiweddar yn priodi geiriau'r Iesu, "Mother, behold thy son" â miwsig—geiriau a ddengys yr hamdden a fwynhai Iesu oddiwrth ei boenau'i hunan ar y Groes i feddwl am Ei fam, yn awr ca yntau hamdden ar ei wely angeu, er gwybod mai gwely angeu yw, i ganu cân ffarwel i'w "gyntaf a'i unig gariad." Prawf y ffaith iddo ysgrifennu