Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ohio; ffurfir pwyllgor pwysig mewn cysylltiad â'r Eisteddfod; y mae y "Gohebydd " yn bresennol; cyhoeddir a gwasgerir cylchlythyrau; apwyntir Parry Fund Committee cenedlaethol; gyrrir diolch i Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gynnyg haelionus i'm haddysgu, gan ddywedyd ar yr un pryd y gwna Cymry America ymgymeryd â'r holl fudiad. Cyfarwyddir fi i ymneilltuo oddiwrth fy ngwaith blaenorol, gan osod terfyn felly ar fy nghysylltiad â'r gwaith haearn. Fel hyn y dygir i ben y drydedd olygfa bwysig yn nrama fy mywyd. Yr wyf yn ofni methu yn fawr.