Ni ddywed air am y cyfnod o 1854 hyd 1858; un o gyfnodau mwyaf derbyngar bywyd. Yr oll a ddywed Mr. Levi yw: "Wedi symud i America, ni chododd un wawr am fanteision addysg i Joseph Parry am flynyddoedd. Dilynai ei orchwyl yn y felin wrth y rolls yn ffyddlon, heb ddim cyfleusterau i efrydu." Yna, fel Parry ei hunan, pasia ymlaen at 1858, a Mr. J. Abel Jones.[1] Yn ol un hanes, " ymbiliodd " ar i Mr. John Abel Jones roddi gwersi iddo mewn cerddoriaeth; ond dywed ef ei hun, mai ar ddymuniad Mr. Jones yr ymunodd â dosbarth a gychwynasai ynglŷn â'r gweithfeydd haearn yn Danville. Yn y "Cerddor Cymreig" am Mawrth, 1869, mewn llythyr o'i eiddo i Mynorydd, fe ddywed, "Ffurfiodd Mr. Jones ddosbarth o wŷr ieuainc perthynol i'r Rolling Mills, ac ar ei ddymuniad ef ymunais â. hwynt. Dysgodd i mi ddarllen caniadaeth, trawsgyweiriad, etc., a chychwynnodd fi mewn cynghanedd. Pan ddechreuais y rhan hon o'r gwaith cymerodd Mr. Price fi ato, ac a ddysgodd i mi gynghanedd a chyfansoddiant." Dwg yr un dystiolaeth mewn llythyr diolch o'i eiddo yn y bennod nesaf.
Ar ol tair blynedd o astudiaeth, yr oedd yn rhaid iddo yn awr fel Cymro dreio'i ffawd a'i fedr mewn cystadleuaeth eisteddfodol. Yn hyn bu yn dra llwyddiannus y tuhwnt i neb o'i frodyr, pa un bynnag a yw popeth a ddywed yr arwr-addolwr amdano yn wir ai peidio. O leiaf, nid rhaid i'w hanes wrth ormodiaith y gwr hwn, fel nad rhaid i Arthur wrth ffyn baglau. Dywedir—yn wir, dywed ef ei hun—na chollodd wobr erioed mewn cystadleuaeth.
- ↑ Dywed "Y Gerddorfa" am Ragfyr, 1873 am Mr. John Abel Jones ei fod yn "un o'r Cymry mwyaf adnabyddus yn Pittsburgh." Efe oedd yn athro cerddoriaeth yn ysgolion cyhoeddus y dref; ac ef a ddewiswyd i ganu y solos ar agoriad cynhadledd fawr y milwyr a'r morwyr.
Yr oedd yn werinwr selog, a phan deithiai ef a'i gantorion mewn cerbyd ar adeg etholiad, tarawyd ef ar ei wegil gan briddfaen, yr hyn achosodd ei farwolaeth.
Dywed Asaph Glyn Ebwy amdano ("Cerddor" Medi, 1894) mai ef enillodd y wobr ar y Solo Bass yn Eisteddfod y "Swan," Ystalyfera, yn 1859, er fod Mr. Silas Evans yn cystadlu.
Yr oedd yn gefnder i'r Parch. D. Jones, B. A., Merthyr. Nid oedd Mr. J. M. Price mor amlwg, ond gweithiai'n ddyfnach.