Digon posibl: eto dim ond y meddwl cystadleuol amrwd, yn gwneuthur "coronau o ddail crinion" yn achlysur bost fyddai'n cysylltu llawer o bwys â hyn. Clod amheus iawn ydyw. Nid athrylith yn aml sy'n llwyddo yn y busnes hwn. Byddai'n dda gennym pe buasai rhai hyd yn oed o'i weithiau borëol yn ddigon newydd a gwreiddiol i golli'r wobr. Dyna hanes athrylith wir erioed, er i'r beirniaid fod y blaenaf yn eu hoes. Buasai Weber yn cyhoeddi "Eroica" Beethoven yn anheilwng o wobr, ac nid heb gryn betruster—ar y cyntaf—y rhoddasai Beethoven wobr i Schubert. Ni wobrwyasid Berlioz gan Cherubini, na hyd yn oed gan Mendelssohn, ag eithrio'i "ganeuon." Ym myd llên meddylier am y fath dderbyniad gafodd Robert Browning a George Meredith.
Enillodd ei wobr gyntaf yn Eisteddfod Danville, Nadolig, 1860, fel y dywed; a'i ail yn Eisteddfod bwysicach Utica y flwyddyn ddilynol, pan orchfygodd ei feirniad yn Danville, ac ennyn ei ddigllonedd. Yn wir, gorwedd gwerth pennaf ei wobr gyntaf a'i ail yn y ffaith iddynt greu cynnwrf mawr o'i gylch, ac i'r rhai a ymosodai ar ei feirniad am wobrwyo un mor ieuanc, alw sylw ei gydwladwyr ato, a'u symbylu i drefnu ffordd i roddi iddo chwech wythnos o addysg mewn ysgol haf gerddorol yn Geneseo, New York, yn y flwyddyn 1861; lle y daeth dan athrawon medrus, ac i gyffyrddiad â chyfeillion megis P. P. Bliss a Madam Antoinette Stirling, fu o fantais a symbyliad pellach iddo. Cychwynasid yr ysgol dan yr enw "Normal Academy of Music " yr haf blaenorol ym misoedd Gorffennaf ac Awst, dan yr athrawon Perkins, Cook, Bassini, ac eraill. Yr oedd y manteision a gynhygid mewn addysg a disgyblaeth gerddorol yn eithriadol, ac nid rhyfedd eu bod yn ffurfio prif ganolbwnc diddordeb pobol gerddgar y wlad. Y'n ei ddyddlyfr am 1861 ysgrifenna Bliss "Summer at Geneseo, New York, T. E. Perkins, T. J. Cook, Pzchowski, faculty this season." Priodolai Bliss ei fedr fel datganydd yn bennaf i'r ddisgyblaeth wyddonol a dderbyniodd dan Bassini—ffugenw Parry, gyda llaw, yng nghystadleuaeth y deuawd yn Abertawe—a diau y teimlai yn ei ddadleuon â Garcia yn yr R.A.M. fod Bassini y tu cefn iddo. Eto anodd gweld fod eisiau fund gyhoeddus i'w alluogi i fynd