uwchlaw y lleill i gyd, fel nad oedd ganddynt y petruster lleiaf i'w ddyfarnu'n oreu."
Ni chyrhaeddodd ei gyfansoddiadau ar gyfer Eisteddfod Aberystwyth (1865) ddwylo yr ysgrifennydd o gwbl, fel y gwyddis; ond yng Nghaerlleon y flwyddyn ddilynol[1] terfynodd â choronodd ei yrfa gystadleuol â Chantawd, "Y Mab Afradlon," am yr hon y dywedai y beirniaid ei bod " y cyfansoddiad goreu o lawer a anfonwyd i unrhyw Eisteddfod yn eu cof hwynt."
Gyda golwg ar gyfansoddiadau Aberystwyth, y mae'n amlwg nad oedd gan Parry mor ddiweddar a 1902 unrhyw wybodaeth na thyb bendant beth ddaeth ohonynt. Y dyb fwyaf cyffredin a barnu wrth ei fywgraffiadau yw iddynt syrthio i ddwylo rhywrai a genfigennai at ei Iwyddiant, a cheisio ei rwystro. Ond pwy, tybed, fyddai'n debyg o genfigennu at ei Iwyddiant ond ei gyd-gystadleuwyr, yn neilltuol y rhai oedd yn llwyddiannus yn flaenorol? A phwy oedd y rheiny? Gwilym Gwent, John Thomas, a David Lewis—y tri diniweitiaf, yn ddiau, ar y ddaear! A sut y daethant o hyd i'r cyfansoddiadau?
Llai ffôl yn sicr y ffansi i bysg y gorddyfnderau, ymhell islaw'r don a'r gwyntoedd, gael cyfle i synnu ac ymholi uwchben dieithrwch y fath gampweithiau cymhleth o nodau, a chrychnodau, a gogrychnodau, megis y gwna Hardy iddynt ymholi ym mharlyrau'r Titanic:
Dim moon-eyed fishes near
The daintily gilded gear
Gare querying " What does all this
Sumptuousness down here? "
Dengys ei hanes pellach inni mai y fantais bennaf a ddaeth iddo o'r cystadlu hyn oedd iddo nid yn gymaint ennill gwobrau, ond ennill sylw personau o ddylanwad fel y "Gohebydd," a'r Parch. Thos. Levi, a gwŷr blaenllaw'r eisteddfod mewn llên a chân, a'u galw at ei gilydd i bartoi ei ffordd at fanteision cerddorol mwy nag a gawsai. Rhaid inni hefyd roddi iddo yntau y clod a deilynganid yn unig fel
- ↑ Dyna ddywed ef yn ei Hunangofiant; ond yn ol Mr. D. Jenkins enillodd ar y Ganig, "Rhosyn yr Haf" y flwyddyn ddilynol (1867) yn America.