Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cerddor ieuanc o allu a diwydrwydd, ond fel dyn ieuanc o fenter a challineb i weld ac i gymryd y ffordd a'i cynhygiai ei hun iddo i ddisgyblaeth uwch a bywyd llydanach, gan adael byd bach cystadlu am byth o'i ol.

Yn ol rhai o'i fywgraffwyr gadawodd y gwaith haearn i weithredu fel organnydd eglwys wedi gorffen ei dymor yn ysgol haf 1861. Nid cywir hyn, yn ol ei lythyi* i Ieuan Gwyllt yn 1864 (gwêl. y " Cerddor Gymreig " am Medi). Yn y llythyr dywed: "Oddiwrth yr hyn a ddywedwch yn y "Cerddor," ymddengys eich bod yn tybied mai organnydd ydwyf, ac nid gweithiwr. Ond y gwirionedd ydyw, yr wyf yn mynd ar dair ar hugain oed, ac yn gweithio yn galed bob dydd mewn Rail Mill; ac felly nad oes gennyf lawer o amser nac arian wrth fy llaw."

Yn ddiweddarach, fodd bynnag, gallwn gasglu iddo gael ei apwyntio'n organnydd eglwys yn Danville yn 1866, canys darllenwn yn y "Cerddor Cymreig" am Chwefror, 1869: "O'r diwedd, tua thair blynedd yn ol, cafodd le fel organnydd mewn eglwys Bresbyteraidd; ac o hynny allan rhoddodd i fyny weithio haearn." Gan fod Parry yn ei lythyr at Mynorydd—a ddyfynnwyd eisoes—yn cywiro rhannau o'r ysgrif hon, heb awgrymu fod yr hanes hwn amdano fel organnydd yn anghywir, diau y gallwn ei gymryd fel un cywir. Os felly, cafodd ei gyflogi'n organnydd tua'r un adeg ag y rhoddodd i fyny weithio yn y melinau, neu'n fuan wedyn; ond nid yw'r dyfyniad uchod yn gywir mai cael swydd fel organnydd oedd yr achos. Yr oedd, bid siwr, yn canu ei offeryn bach ei hun, medd ef, cyn hyn—yn y gwahanol gyfarfodydd yn ei gapel ei hun.[1]

  1. Yn y bennod nesaf cyfeiria Parry at ddeuddeng (12) mlynedd fel organnydd yr Eglwys Bresbyteraidd, ond rhaid mai gwall yw hyn, ac fod yr "1" wedi llithro i mewn drwy ryw lapsus. Byddai gwneuthur yr amser yn ddwy (2) flynedd ar y cyfan yn cydgordio â'r uchod.