Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfansoddiadau a ddanfonwyd i'r gystadleuaeth, un mor bell uwchlaw'r cyffredin o weithiau o'r fath, fel yr amheuais ei wreiddioldeb,—tybiwn mai lladrad ydoedd! Digwyddais fod yn Eastbourne gyda'm cyfaill Syr Stemdale Bennett, a dangos y cyfansoddiad iddo, Ámheuai yntau wreiddioldeb y gwaith fel fìnnau, ac awgrymodd archwiliad mewn cyfrol o Goralau gan Bach. Trodd pethau allan yn ffafr awdur y cyfansoddiad. Gynhaliwyd Eisteddfod Abertawe ychydig wythnosau wedi'r ymddiddan uchod, ac wrth feirniadu'r cyfansoddiadau, crybwyllais yn fyr yr hyn a ddigwyddasai, a dywedais, os medrai'r ysgrifennydd brofi ei hawl, ac os na chodai amheuon pellach, y caffai'r wobr. Yr awdur ydoedd Joseph Parry. Pan ddaeth i Loegr yn ddiweddarach, cymerais ddiddordeb pellach ynddo, ac ysgrifennais ar ei ran at Syr Sterndale Bennett, Prifathro'r Athrofa Frenhinol . . "

Ni fyddai'n deg â Mr. Richards i'w gyhuddo o hawlio clod na pherthyn iddo, llai fyth o wyrdroi neu hyd yn oed gamliwio ffeithiau. Ni ddywed mewn cynifer o eiriau iddo grybwyll y mater wrth y "Gohebydd" ei hun—fel y dywedwyd, brasgamu y mae, a diau mai'r gwir yw iddo alw sylw cyfeillion y tu mewn i'r cylch eisteddfodol at deilyngdod eithriadol y gwaith a'r awdur. Yr oedd yn llawn o'r peth, mae'n amlwg, gan iddo ei ddwyn i sylw Syr Stemdale Bennett—fel mai'r diwedd fu i "Gohebydd " gymryd at y gwaith o symbylu ei gydgenedl i gyfrannu at addysg Parry.

Aethai'r "Gohebydd" i New York i weld y "bechgyn o Danville " ar eu ffordd i Eisteddfod Aberystwyth, a daeth o hyd iddynt yn Hotel Mr. Eleazer Jones, lle'r oedd " hi'n ganu y pryd hwnnw o'r bore " (chwech o'r gloch). Dywed y "Gohebydd" ymhellach: [1]"Pan gyrhaeddais New York y bore hwnnw o Utica, a phan ddaeth Mr. Eleazar Jones a'r 'Gohebydd' a Joseph Parry at ei gilydd, prin y gallwn gredu mai y llencyn llyfndew difarf hwnnw oedd y Joseph Parry y clywswn gymaint amdano. 'Nid y dyn ieuanc hwn, 'does bosibl'

  1. Y "Faner," Medi, 1866.