Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwn, 'yw hwnnw a ysgubai wobrau Llandudno o'i flaen—'does bosibl mai hwn ydyw hwnnw.' Gwenodd y llanc, a throdd draw, ac ebe un o'r cwmni, 'Hwn yna ydyw ef, gellwch fod yn eithaf tawel am hynny.' A hwn oedd o. Yn awr, i dorri'r stori'n fyr, y mae gennyf air at gyfeillion yr Eisteddfod ynghylch y Joseph Parry hwn, a dyma fe: dyn ieuanc yw Parry, tair ar hugain oed, genedigol o Ferthyr Tydfìl. 'Dw i ddim yn cofio pa sawl blwyddyn sydd er pan ddaeth drosodd i America, ac ni waeth. Gweithia yn galed bob dydd yn un o weithfaoedd haearn Pennsylvania. Ni chafodd ddiwrnod o ysgol heblaw a gafodd yn yr Ysgol Sul, nac unrhyw hyfforddiant yn y gelfyddyd gerddorol heblaw yn unig a gafodd gan un neu ddau o'i gydweithwyr. Y cwestiwn sydd gennyf i'w ofyn yw hyn—Onid oes modd rhoi rhyw gychwyniad i'r dyn ieuanc hwn, Joseph Parry, fel ag i'w osod mewn sefyllfa ag a fydd yn fwy cydnaws â'r elfen gerddorol sydd wedi ei phlannu yn ei enaid, lle y gall fod o well gwasanaeth i'w genedl, i'w oes, ac i'r byd, na bod yn treulio ei nerth a'i ddyddiau o flaen ffwrneisiau Danville, yn toddi haearn? Dyma ydyw un o amcanion proffesedig yr eisteddfod—un o'i hamcanion mawrion cyntaf—un o'i phríf stock-in-trade: sef cefnogi a chynorthwyo native talent. Dyma Iwmp o 'genius 'does dim un os am hynny. Y mae yn resyn ac yn bechod fod y fath dalent ag sydd yn hwn yn cael ei gwario yn ofer. Oni byddai'n bosibl cynllunio rhyw fesurau fel y gellid ei anfon maes o law o Aberystwyth i'r Athrofa Frenhinol, neu yn hytrach am dymor i gychwyn, o dan addysg Dr. Evan Davies, neu rywun arall, ac wedi hynny i Lundain?

"Nid oes gennyf ond cyflwyno achos ein cyfaill ieuanc a'n cydwladwr talentog, Joseph Parry, i ofal Rheithor Castellnedd, gyda dymuno arno fel cadeirydd Gyngor yr Eisteddfod i gymryd ei achos o ddifrif mewn llaw."

Yn ddiweddarach, ar ol yr Eisteddfod, ysgrifenna:

"Yn gymaint ag mai'r ' Faner ' a ddigwyddodd daflu allan yr awgrym cyntaf ynghylch y peth, goddefer i mi yn y fan hon, droswyf fy hun, i ddiolch yn gynnes i Gadeirydd ac Aelodau Gyngor yr Eisteddfod am eu sylw parod, dioed, a charedig i'r awgrymiad hwnnw."