Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mewn canlyniad i hyn neilltuwyd pwyllgor gweithredol o ddynion gweithgar a chenedlgarol y dref a'r cylchoedd, ac hefyd bwyllgor cyffredinol o enwogion y wlad y rhai a feddyliem a deimlent ddiddordeb yn y mudiad, a da gennyf hysbysu iddynt oll oddieithr un gydsynio ac addo eu dylanwad o blaid y mudiad.

"Felly argraffwyd cylch-lythyrau (circulars), a gwasgarwyd hwy ar hyd a lled y wlad. Dechreuwyd y drysorfa yn weithredol trwy i bwyllgor Eisteddfod Youngstown gyfrannu 50 doler tuag ati. Yr amcan mewn golwg oedd codi trysorfa dim llai na thair mil o ddoleri, a da gennyf hysbysu cyfeillion y mudiad nad ydys ymhell o gyrraedd yr amcan, fel y gwelir wrth yr Adroddiad o Sefyllfa Ariannol y Drysorfa.

"Drwg gennym na allwn roddi hanes cynnyrch pob cyngerdd ar ei ben ei hun; buasai hyn yn foddhad mawr i'r amrywiol ardaloedd sydd wedi cydweithredu â'r mudiad mor ardderchog. Gan na allwn roddi cynnyrch pob lle yn arbennig ar ei ben ei hun, yr ydym o dan angenrheidrwydd o roddi yr holl gynnyrch yn gyfanswm.

"Derbynied pob lle a pherson sydd wedi cydweithredu â'r mudiad hwn ddiolchgarwch gwresocaf y pwyllgor gweithiol.

"Am y drysorfa yn y dyfodol, digon yw dywedyd y bydd o dan lywodraeth y pwyllgor gweithiol, bydd y taliadau yn chwarterol yn ol fel y bydd y gofynion, a'r gweddill i'w rhoi ar lôg i'r person neu'r personau a rydd y llôg mwyaf, gyda'r sicrwydd (security) gofynnol amdanynt. "Bwriada y Pencerdd, mae'n debyg, gychwyn i Lundain tua'r haf; ni bydd angen iddo fynd i Goleg Normalaidd Abertawe, gan ei fod yn derbyn addysg ragbaratoawl yn Danville yn bresennol, yn flaenorol i'w dderbyniad i'r Athrofa Frenhinol.

"Dymunwn iddo bob llwyddiant yn ei ymdrechion canmoladwy i gyrraedd pinaclau dysg ac enwogrwydd Bydded o dan nawdd y Goruchaf yn ei fynediad a'i ddychweliad yn ol; caffed iechyd a nerth i efrydu, cured a thafled ei gyd-efrydwyr estronol i'r cysgod, enilled brif deitlau yr Athrofa, deued yn ol yn un o brif blanedau y byd cerddorol,