Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bydded yn gyfrwng budd a bendith i'w gydwladwyr ac i'r byd gyffredinol.

Joseph Aubrey."

Yn dilyn cawn lythyr diolchgarwch y Pencerdd at ei gyfeillion a'r wlad yn gyffredinol:

"Fy annwyl gyfeillion,—Pan yn ymadael â chwi y tro hwn, yr ydwyf yn teimlo hiraeth mawr wrth wneuthur hynny. Teimlaf fy mod yn ymadael â chyfeillion cywir i mi; ïe, rhai ag sydd wedi profi hynny yn anfesurol tuag ataf. Teimlaf y bydd adeg Nadolig 1865 yn y dref hon, a chwithau fel pwyllgor, a chyfeillion i'r Eisteddfod hon, yn fythgofiadwy a seliedig ar fy meddwl a'm calon, gan mai yr adeg honno oedd yr un fwyaf pwysig a gwerthfawr i mi yn ystod fy mywyd, oblegid y mae eich cynlluniau cenedlgarol yr adeg honno, gobeithiaf, wedi gwneuthur cyfnewidiad pwysig ac annisgwyliadwy yn llwybr fy mywyd, sef fy nwyn o sefyllfa y gweithiwr caled, a rhoddi mantais i mi ddyfod i sefyllfa fwy cyfrifol, defnyddiol, a chyhoeddus mewn cymdeithas; a pha le bynnag y byddaf yn y dyfodol, gallaf eich sicrhau y gwnaf edrych yn ol ac atgoffa am eich henwau a'ch cynlluniau gyda hyfrydwch calon. y Yr ydwyf hefyd yn gwerthfawrogi, ac o dan rwymau neilltuol i'm cenedl dros y wlad yn gyffredinol am eu cydweithrediad yn y mudiad, yn neilltuol y cerddorion, y rhai a ddangosasant bob teimlad da a'u cynhorthwy er cynnal y cyngherddau a phartoi gogyfer â'r cyfryw. Y mae llaweroedd ohonynt yn Nhaleithiau Ohio, Illinois, Wisconsin, New York, Vermont, ac hefyd yn y dalaith hon, y rhai y mae eu henwau yn annwyl i mi, a hoffwn gael eu henwau yn yr erthygl hon, ond byddai yn cymryd gormod o ofod y 'Drych.'

"Cyfiawnder â'm hoff gyfeillion, y Parch. J. Moses, Aneurin Fardd, a'r 'Gohebydd,' a fyddai dywedyd eu bod hwy wedi cymryd rhan helaeth yng nghynlluniad y mudiad gan eu bod yn Youngstown ar y pryd. Daeth y 'Gohebydd' yno i'r unig ddiben o gychwyn y mudiad; a dywedaf yma mai y 'Gohebydd' oedd y dyn a ddechreuodd y mudiad, efe fu yn foddion trwy ei lythyrau at brif ddynion yr Eisteddfod