dawel, ddigyffro Maryland, mai newydd ddianc oeddym o'r gwallgofdy.
"Bydd pobol dduon Maryland yn cofio am y Pencerdd O genhedlaeth i genhedlaeth, ac hwyrach, yn y dyfodol draw, y bydd rhai o'n halawon cenedlaethol yn cael eu holrhain yn ol i ganiadau byrfyfyr y Pencerdd pan yn ymdeithio drwy eu gwlad. Hynyna am y cyngherddau. "Ar ddymuniad Mr. Parry, yr ydym yn rhoi ar ddeall i'w gyfeillion ar hyd a lled y wlad ei fod yn bresennol yn cymryd ei addysg gyffredinol yn Danville. Ei fwriad unwaith ydoedd mynd i'r Hen Wlad y gwanwyn diweddaf, ond oherwydd ei wasanaeth fel organnydd ac arweinydd y Danville Choral Society, y mae yn cael ei addysg am ddim, a chyflog heblaw hynny.
"Gobeithia, drwy hynny, i adael y Parry Fund fel y mae, a mynd i Lundain y flwyddyn nesaf i'r Athrofa Frenhinol, gyda'r amcan o berffeithio ei addysg gerddorol. Rhwydd hynt i'n cyfaill i ddringo yn uwch o hyd."
Pan ar gychwyn am Brydain, ysgrifenna Parry i'r "Drych " (Awst 13, 1868):
"Annwyl Gydgenedl,—Teimlaf fod rhyw gysylltiad a pherthynas agos rhyngom er y blynyddoedd diweddaf yma; a bod dyletswydd arnaf ddanfon gair i'r ' Drych ' cyn fy ymadawiad. Byddaf yn ymadael â dinas Efrog Newydd dydd Mercher, Awst 19. Pa hyd byddaf yn aros, ni wn; ond, cyhyd y gall y drysorfa fy nghynnal, a minnau yn medru bod oddiwrth y teulu.
"Yr wyf yn teimlo yn wir hiraethus i ymadael â'r wlad hon a'i chyfeillion, fy mherthnasau, fy hen fam, a fy annwyl wraig a'm plant. Gorchwyl annymunol, ac anodd iawn fydd ymadael, ond hynny sydd raid, a hynny wyf yn fodlon ei wneuthur, ac aberthu er cael y fantais werthfawr yr ydych chwi fel cenedl wedi ei hestyn i mi; ïe, mantais yr hon sydd megis yn gosod fy nhraed ar odre'r ysgol, er dringo, os medrwn, ei grisiau gogoneddus a defnyddiol. Diolch calon i chwithau, Olygyddion y 'Drych,' am eich parodrwydd a'ch haelioni o roddi dalennau y 'Drych' am flynyddoedd er gweithio allan y cynllun cenedlgarol. Ni allaf ddywedyd fy nghalon ar y mudiad hwn sydd wedi