Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithio mor llwyddiannus, a gobeithiaf y gwna orffen yr un modd—'All's well that ends well'

"Gobeithiaf y gwna yr Hwn sydd â phob gallu yn Ei law weld yn ddoeth ein cadw o dan Ei adenydd dwyfol ac y cawn gyfarfod eto. Ydwyf, eich ufudd was,

"Joseph Parry (Pencerdd America)."

Wedi glanio, ysgrifenna drachefn:

"Medi 11, 1868.

"Annwyl Gydgenedl,—Er mwyn cyflawni yr addewid, dyma fi yn gyrru gair atoch i'ch hysbysu fy mod wedi cael fy nghario ar lydan ysgwyddau yr eigion, a chael fy ngosod yn iach, diogel, a chysurus ar dir hir-ddisgwyliedig Gwalia. Teithiais heibio i olygfeydd rhamantus Cymru, a chyrhaeddais fy nhref enedigol, Merthyr Tydfil. Yr oedd gweld y lle hwn yn sirioli fy llygaid ac yn gwresogi fy nghalon; yn neilltuol gweld y fan lle y bûm yn chwarae lawer gwaith, heb ofid i'm bron. Gweld y tŷ, a chysgu yn yr ystafell y'm ganwyd ynddi—yr oedd hyn yn dwyn ar gof i mi y llinellau hynny:

O! give me back my childhood's dreams,

O give them back to me;

When all things wore the hue of love,

The heart from grief was free.

"Y mae ail fwynhau golygfeydd bore fy oes yn ailfywiogi y teimlad, ac yn agor y llif-ddorau i ffrydlif atgofion lawn y dywedwyd: r Gas ŵr na charo'r wlad a'i maco.' Bydded gwlad ein genedigaeth mor isel neu uchel ag y byddo—waeth pa un—y mae dynoliaeth yn ein gorchymyn i'w charu.

"Yr wyf yn awr yn sir Gaer[1]—sir enedigol fy mam. Y mae gweld yr hen dŷ y ganwyd fy mam ynddo a'r lle bu hithau yn chwarae yn ystod oriau dedwyddaf ei hoes yn llawenydd mawr i'w mab. Go ddifyr i mi oedd gweld merched gwridgoch siriolwedd sir Gaer yn eu besdynau cochion, a'u hetiau mawrion yn ymddyrchafu i'r awyr fel simneuau y tai (ac yn uwch na llawer ohonynt). Ghwarddech yn iachus pe gwelech fi yn bwyta bara haidd ac yn yfed cawl o ffiol bren, gan ymddangos yn gymaint Gardi a'r un ohonynt. Gymaint a hynna am sir Gaer.

  1. hy Sir Gâr (Caerfyrddin) nid Swydd Gaer (Cheshire)