Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac nid y leiaf swynol yw ei Deirawd gysegredig, 'Duw bydd drugarog' Yn wir, y mae hon yn un o'r pethau tlysaf a wnaeth erioed. Yr oedd ei ganiadaeth hefyd yn dra meddylgar a mynegiadol. Yr oedd dyfais a medr y cyfansoddwr yn cael eu heilio gan ddealltwriaeth y canwr. Nid rhaid iddo ryfeddu na theimlo'n siomedig iawn os yw yn gweld 'Lol i gyd ' a chaneuon ysgeifn cyffelyb yn cael mwy o dderbyniad na'i gyfansoddiadau gorchestol ef. Os yw rhai yn meddwl mai eu swydd yw gweinyddu difyrrwch a phorthi ysmaldod a choeg-ddigrifwch, y mae efe a Miss Watts yn cofio mai eu gwaith hwy ydyw addysgu eu cynulleidfaoedd, a'u codi i werthfawrogi y pur, y prydferth, a'r dyrchafedig. Ni ellir dychmygu gwerth cerddorion o'r fath yma trwy ein gwlad, mewn ystyr foesol yn gystal a cherddorol; a hyderwn y bydd eto alwadau mynych am eu gwasanaeth."

Gyda golwg ar ei gynnydd a'i lwyddiant yn yr Athrofa, gyda dywedyd iddo ennill y Bronze Medal, a'r Silver Medal—yr anrhydedd uchaf posibl y pryd hwnnw, ni a adawn i'r canlynol siarad:

"Dydd Gwener, Gorffennaf 23 (1869) cynhaliwyd cyngerdd diweddaf yr Athrofa ar ei thoriad i fyny am wyliau yr haf. Gymerodd Mr. Parry ran arbennig yn y cyngerdd fel canwr. Yn ystod y cyfarfod, cyflwynwyd gwobrau i'r rhai a ystyrrid gan yr arholwyr yn deilwng. Allan o'r pymtheg a thrigain o efrydwyr yr oedd deuddeg wedi pasio i dderbyn gwobrau, ac yn eu mysg yr oedd Mr. Parry. Yr oedd yr un ar ddeg eraill wedi bod yn yr Athrofa, rhai am dair, ac eraill am bedair blynedd, pryd nad oedd y Pencerdd wedi bod yno ond deng mis; ac yr oedd degau o'r efrydwyr wedi bod yno am flynyddoedd heb gael un wobr. Cyflwynid y gwobrau gan Mrs. Gladstone, priod y Prif Weinidog, a phan ddaeth Mr. Parry ymlaen i dderbyn ei wobr o'i llaw, hi a ddywedodd wrtho, 'Yr wyf yn deall mai Cymro ydych.' 'le, mam' atebai yntau. Dywedodd hithau, 'Gymraes drwyadl ydwyf finnau; ac y mae yn bleser mawr iawn gennyf gael cyflwyno gwobr i un o'm cydwladwyr.' " Ei athrawon oedd Sir Sterndale Bennett, mewn cyfansoddi; Dr. Stegall, ar yr organ; a Signor Manuel