Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Garcia, ar y llais. Ceir syniad Syr Stemdale Bennett am- dano yn ei ateb i lythyr un o Ymddiriedolwyr Trysorfa Parry, yn holi hanes ei gynnydd:

"Royal Academy of Music,
Rhagfyr 20, 1869.

"Annwyl Syr,—Gallaf roddi i chwi yr opiniwn uchaf am eich cyfaill Joseph Parry, sydd yn bresennol yn fyfyriwr yn ein sefydliad. Y mae yn meddu ar dalent gerddorol fawr, ac yn dilyn ei holl efrydiau gyda llwyddiant mawr a chynhyddol. Byddai yn anffawd pe na allai aros gyda ni am gryn amser yn hwy; ac yr wyf yn hyderu y bydd i'w gyfeillion ei alluogi i wneuthur hynny. Bydd i bopeth a allant ei wneuthur drosto ddwyn ffrwyth o'r fath oreu. Y mae yn drwyadl, selog, a diwyd, ac yr wyf fi yn disgwyl llawer oddiwrtho.

Ydwyf, annwyl syr, yr eiddoch yn gywir,

Wm. Sterndale Bennett."

Ar ymadawiad Mr. Parry am America yn haf 1871, derbyniodd ysgrifennydd ei gwrdd ffarwel a ganlyn oddiwrth y Prifathro: " Mr. Parry deserves most thoroughly all the friendship and support he obtains. He will go back to America an accomplished musician and an enthusiastic artiste."

Yr oedd Garcia, athro Jenny Lind, a brawd Malibran, yn un o'i gefnogwyr pan yn ymgeisydd am y swydd o Brifathro yn y Guildhall School of Music yn 1896, ar waethaf yr hanes amdanynt a roddir gan Prof. Parson Price yn y "Cerddor" (Gorffennaf 1905). Arferai Mr. Price fynychu dosbarthau Garcia yn 1862-63, a phan alwodd i'w weld ugain mlynedd yn ddiweddarach, gofynnodd iddo a gofiai amdano yn 1862. "No," oedd yr ateb, " but I do remember an obstreperous fellow, Parry, who was a Welshman, and who used to argue with me, and I would not or could not convince him of his faults, but I understand he has turned out to be a good composer." "Adroddais y joke wrth yr annwyl Ddoctor," meddai Mr. Price, a'i ateb oedd: "Yr oeddym bob amser yn ymladd, ond ymladdfeydd godidog oeddynt." Ar waethaf hym—neu oblegid hyn efallai—tystia testimonial