Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Garcia "that you understand the cultivation of the voice," ond y mae'r gair "obstreperous " wedi ei adael allan. Ysgrifennodd ato hefyd y llythyr caredig a ganlyn ar ei ymadawiad:

"R.A.M., Llundain,
Gorffennaf 17, 1871.

"Annwyl Mr. Parry,—Gan fod (tymor) yr Athrofa Frenhinol Gerddorol yn awr yn gorffen cymeraf y cyfleustra hwn i ddatgan fy moddhad yn ffrwyth eich efrydiau. Y mae gennych lais baritone da o gwmpas eang ac ystwythder da, ac egyr eich gwybodaeth o wahanol arddulliau a lleisiau o'ch blaen gwrs o fywyd fel datganydd neu athro. Y blaenaf, yn fy mam i, yw'r mwyaf enillfawr a hyfryd.

"Gan ddymuno i chwi bob llwyddiant,
Gorffwysaf, yr eiddoch yn ffyddlon,
Manuel Garcia."

Rhoddwyd un o'i weithiau, "Choral Fugue," yng Nghyngerdd yr Athrofa ar ddiwedd y tymor gyda chymeradwyaeth: "A well-conceived and scientifically wrought out composition," meddai'r "Daily Telegraph." Yn y cwrdd ffarwel a gynhaliwyd iddo yn Aldersgate Street, cynhygiwyd y penderfyniwyd a ganlyn mewn araith hyawdl gan Mr. Henry Richard, A.S., ac eiliwyd gan Mr. (Syr) Hugh Owen:

"Fod y cyfarfod hwn yn dymuno llongyfarch Pencerdd America ar ei lwyddiant mawr, ac yn dymuno hefyd ar fod i heddwch barhau i ffynnu rhwng trigolion Lloegr ac America."

Pasiodd yr arholiad am y radd o Mus. Bac. yn Athrofa Gaergrawnt, er nad ef oedd "y Gymro cyntaf i wneuthur hynny."