Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addysgiadol iddo i sylwi—a chadw at y ffug o uchter, ac edrych ar ei weithiau fel mynyddoedd neu fryniau'n codi i'r nef—fod yna gryn wastatir o'n cylch yn ol a blaen; ychydig o weithiau o bwys a ysgrifennodd wedi 1866 ac ymlaen hyd 1878.

Yn ei Hunan-gofiant gofidia am y ffaith, heb roddi un cyfrif amdani.

Wele restr weddol gyflawn o'i weithiau ymlaen hyd 1878. Dywed ef ei hun am ei weithiau gwobrwyedig hyd 1866: "In all, twenty prizes won in National Competitions between 1861 and 1866, Oratorios, Glees, horales, Choruses, Motett, Quartettes, Songs, Canons, and Part Songs."

Wedi'r tymor cystadlu hyd 1870, cyhoeddwyd ei chwe anthem: "Yr Arglwydd yw fy Mugail," "Gweddi'r Arglwydd," "Duw bydd drugarog," "Mor hawddgar yw Dy bebyll," "Hosanna i Fab Dafydd," ac "Anthem Angladdol "; "Te Deum," a Ghanig, "Gwraig y Meddwyn," ynghyda'r Gân, "Gwraig y Meddwyn." Cyhoeddwyd Cân, "My Ghildhood's Dreams," yn 1865, a nodwyd nifer o'r Caneuon o'i waith ei hun a ganai ef ei hun yn nês yn ol.

Ar ol 1870, caed "Cantata'r Adar" yn 1871. Yn 1872 hysbysebid y rhai canlynol yn America: Cân a Chytgan, "Gwnewch bopeth yn Gymraeg,"; Cân a Chytgan, "Dyna'r dyn sy'n mynd â hi"; song, "Slumber lie soft on thy beautiful eyes "; song, " O, give me back my childhood's dreams " (gwêl uchod); song, "All hail to thee, Cambria"; chwech o ganeuon gyda geiriau Cymraeg a Saesneg; Ballad, "The Old Cottage Clock "; Ballad (descriptive), "The Gambler's Wife " (Gwraig y Meddwyn); Ballad, "The Dying Child"; Prize Glee, "Rhosyn yr Haf"; Prize Glee, No. 1, "Ar don o flaen gwyntoedd"; Glee, No. 2, "Ar don o flaen gwyntoedd"; Glee, "The Prayer" (geiriau Cymraeg a Saesneg); Motett (i bum llais), "Gostwng, O Arglwydd" (buddugol yn Abertawe); Anthem, " Achub fi, O Dduw "; Anthem, " Clyw, O Dduw, fy ngweddi "; Chwe Anthem (gwêl. uchod); Trio (Serenade), " Sleep, lady, sleep."

Yn llyfr lorthyn Gwynedd cawn Gân a Ghytgan, "Cymry Glân Amerig." Gelwir y rhestr a ganlyn yn