Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI. Danville ac Aberystwyth.

Hunan-gofiant:

YM mis Awst dychwelaf fi gyda'm teulu i'n cartref Americanaidd, ar fwrdd yr agerlong The City of Berlin. Ac yna yr wyf gyda chwi oll eto, fy hen gyfeillion annwyl a pherthnasau. Yr wyf ar daith o 103 o gyngherddau yn ail ymweld â'r holl leoedd a ffrindiau a gynorthwyodd i'm danfon i Lundain. Dwg y daith fi i New York, Illinois, Wisconsin, lowa, Minnesota, Tennessee, ac yn ol trwy Kentucky a Virginia i'm talaith fy hun, Pennsylvania. Yn y fan hon, gorlifir fy meddwl gan atgofion am gyfeillion a charedigrwydd sydd yn argraffedig yn fy nghalon os nad ar y tudalennau hyn.

1871—2—3: Yr wyf yn fy hen gartref yn Danville yn sefydlu'r Musical Institute gyda llawer o Iwyddiant; yn ol hefyd gyda'r un organ, ac eglwys, a chôr.[1] Dengys fy rhestr (o weithiau) mai dyma'r tymor lleiaf ffrwythlon yn ystod fy holl fywyd fel cyfansoddwr, er mawr ofid i mi ac yn groes i ddelfrydau fy mywyd.

1874 a gwyd y llen ar y golygfeydd mwyaf pwysig a by wiog yn fy holl fywyd. Cymeraf daith ffarwel ymhlith fy nghyf- eillion yn America a dychwelaf gyda'm gwraig a'n plant i wlad fy ngenedigaeth i lanw'r swydd o Athro Cerddorol a sefydlwyd er fy mwyn yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, gan fod yna ddymuniad cryf yn ddwfn yn fy nghalon i gysegru llafur fy mywyd i'r gwaith o ddatblygu a hyrwyddo cerddoriaeth ymhlith cerddorion ieuainc fy ngwlad fel mater o ddyletswydd oblegid eu hymdrechion clodwiw i roddi addysg i mi. Ac yr wyf i yn gystal a llawer o'm cyfeillion anwylaf yn barnu y gallaf wasanaethu achos

  1. Dywed Cynonfardd ei fod yn Organnydd yn Eglwys Esgobol Wilkesbarre o 1872 hyd 1874, ac mai i gôr yr eglwys y cyfansoddodd "The Tempest."