Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cenedlaethol cerddoriaeth Gymreig yn well drwy ddychwelyd i Gymru a derbyn y Gadair a wesgir arnaf. Yr wyf yn gwneuthur hynny, er fy mod yn gwybod y golyga aberth ariannol mawr i mi a'm teulu. Yr ydym yn awr fel teulu'n gadael ein llu cyfeillion annwyl,—fy mhriod, ei rhieni, ei chwaer a'i brawd, a minnau, fy mam annwyl yn ei henaint, a'm brawd a'm dwy chwaer. Ac wele ni yn awr unwaith eto ar y Werydd llydan ar fwrdd yr agerlong The City of Brooklyn (?)—fy chweched mordaith. Wedi cyrraedd Lerpwl, derbyniais frysneges yn gofyn i mi feirniadu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Symudasom i Aberystwyth ym Medi, a dechreuais ar fy nyletswyddau colegawl yn Hydref.