Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.




Cymar yw'r Cofiant hwn i un D. Emlyn Evans: onibai i mi ysgrifennu hwnnw—a hynny nid ohonof fy hun—ni fuaswn erioed wedi breuddwydio am ysgrifennu hwn. Cefais dystiolaeth cerddorion ac eraill i gofiant Emlyn lenwi gwagle amlwg, ac y byddai cofiant i Dr. Parry yn wasanaeth pellach. Heblaw hyn, rhaid i mi gyfaddef fod atyniad i mi yn y syniad o wneuthur cofiant i artist—un nad oedd yn ddim arall. Credaf fod Cofiant Parry'n werth ei ysgrifennu ar y cyfrif hwn, yn annibynnol ar werth yr hyn a gynhyrchodd. Hoffwn i'r darllenydd ei gymryd fel y cyfryw, gan mai dyna'r rheswm fod cynifer o gyfeiriadau at artists eraill ynddo yma a thraw, lle'r oedd eisiau dwyn allan ryw arwedd neu nodwedd yn fwy llawn a chlir. Tra y mae nofelwyr yn disgrifio cymeriadau dychmygol, cawn yn Joseph Parry deip arbennig o anianawd a bywyd yn rhodio'r ddaear.

Eto, disgwyliwn gael mwy o gymorth ei ddisgyblion nag a gefais: nid oedd gennyf ddymuniad i fod yn fwy na dolen gydiol rhwng rhai ohonynt hwy. Ond nid pob cerddor a fedd ddawn lenyddol fel Dr. Protheroe: efallai y barna'r darllenydd fod ei ysgrif ef ar ran disgyblion Parry yn ddigon. Eto ni allesid gwneuthur heb sylwadau gwerthfawr Mr. J. T. Rees, Mus. Bac. ar gyfnod Aberystwyth. Cefais addewid am ysgrif gan un o ddisgyblion disglair cyfnod Caerdydd na chyflawnwyd mohoni.

Y tu allan i gylch ei ddisgyblion ceir ysgrifau gan ddau o safle cerddorol uchel—Mr. Tom Price yng Nghymru, a Mr. Cyril Jenkins yn Lloegr. Diau y crea ysgrif yr olaf lawer o syndod, os nad dicter, mewn rhai cylchoedd. Eto y mae ganddo hawl i siarad ar gyfrif ei allu diamheuol, a'i safle uchel yn Lloegr, a dylasai ei sylwadau o leiaf ein symbylu i feddwl. Ar y llaw arall y mae i ni gofio bod oes o adweithiad bob amser yn condemnio'r oes flaenorol, ac