Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad yw ei barn yn derfynol. Rhydd Moderniaeth mewn Cerdd le uwch i'r deallol nag i'r teimladol; yn ol un beirniad cerddorol, nodweddir yr oes gan "disdain for eloquence." O safbwynt ysbryd yr oes yn unig y gallwn gysoni opiniwn Mr. Jenkins ag eiddo eraill yn y Cofiant nad ydynt nac yn ddiddawn nac yn ddiddysg. I gerddor o safle Sir Frederick Bridge y mae mynd i gyngerdd heddyw'n fwy o boen nag o bleser, meddai ef. (Gweler Pennod XXV ar hyn.)

Cefais ganiatâd caredig Mr. L. J. Roberts, M.A. i ddefnyddio'i ysgrif ar Dr. Parry a ymddangosodd yn y "Geninen," a chaniatâd parod perchenogion (neu olygyddion) "Y Cerddor Cymreig " a'r "Cerddor," "Y Geninen," "Baner ac Amserau Cymru," y "Drych," a'r "South Wales Weekly News," ddyfynnu ohonynt hwy. Bûm yn ffodus i gael dau ŵr o ganfyddiad a gallu cerddorol a llenyddol—Mr. David Lloyd, Killay, a Mr. E. R. Gronow, Caerdydd—i roddi hanes dyfodiad Dr. Parry i Abertawe, ac i Gaerdydd.

Y tu allan i'r ysgrifau rhaid i mi gydnabod fy nyled, ymlaenaf oll, i Mr. a Mrs. Waite (Wolverhampton), merch Dr. Parry, a'i phriod, am fenthyg llawer o'i bapurau. Deuthum o hyd i'w cyfeiriad drwy gynhorthwy caredig Mr. a Mrs. Horatio Phillips, Femdale, a phe buasai ffawd wedi fy arwain atynt yn gynt, arbedasai lawer o'r drafferth a'r amser a gymer i archwilio cannoedd o gyfnodolion a newyddiaduron. Efallai mai'r trysor goreu a gefais oedd yr Hunangofiant, er mai gwaith trafferthus oedd ei ddarllen—yn hytrach ei ddehongli—a'i gyfieithu. Ceir gwahanol adrannau hwn ar ddechreu'r gwahanol benodau lle y perthynant—mewn llythyren wahanol, fel y gallo'r darllenydd ei ddarllen drwodd i'r diwedd os myn. Drwg gennym na chafwyd y "rhestri" o weithiau y cyfeirir atynt yn yr Hunangofiant ymysg ei bapurau. Yr hyn a allodd Mrs. Mendelssohn Parry (Hannah Jones), hi a'i gwnaeth.

Cefais bob hwylustod i archwilio llyfrau a chofnodion, a phob help a geisiwn gan y Prifathro J. H. Davies, M.A.,