Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

merched; felly nid teg cymharu; eto deil gwaith y Cymro ei dir hyd yn oed yn wyneb darn tlws yr Ellmyn.' Dyna eiriau cryfion, onide? Ond po fwyaf genir ar yr anthem, mwyaf yr edmygir ei ffurf syml, chwaethus, a gorffenedig." Eto nid yr amrywiaeth hwn yn unig sydd ddigon i wneuthur cyfanwaith artistig; y mae'n rhaid i'r gwahanol rannau fod yn fynegiadau o'r un syniad canolog, a bod yn ddarostyngedig iddo, hynny yw, nid bod yn ychwanegiadau ato fel ag i ffurfio pentwr o ddarnau'n perthyn yn allanol a digwyddiadol i'w gilydd, ond bod pob un yn dangos y syniad canolog mewn ffordd neilltuol, gan ei wneuthur yn fwy clir a datblygedig. Pe cruglwyth o rannau fuasai eisiau, rhwydd fuasai i ni bentyrru nifer o ddarnau blaenorol Parry at ei gilydd a'u galw yn opera neu oratorio. Wrth gwrs, y mae'n rhaid wrth unoliaeth ac amrywiaeth ymhob darn artistig, pa mor fach bynnag y bo; yr unig wahaniaeth mewn gwaith mawr yw fod y syniad yn fwy ei gwmpas, a'r amrywiaeth yn fwy cyfoethog; ac yn yr ystyr yma'n unig y gellir ei gyfrif yn ddechreuad newydd yn hanes Parry.

Nid yw y gallu pensaernïol hwn ar raddfa eang yn angenrheidiol i wneuthur cerddor (na bardd), ac ni ellir ei farnu fel artist yn ol ei feddiant ohono: y mae'n angenrheidiol yn unig i fath arbennig ar artist. Hyd yn oed ar lefel syniadaeth rhaid barnu'r artist yn ol ansawdd ei syniad, ei gywirdeb darfelyddol, ei gytgord ag ystyr uchaf pethau, nid yn ol ei faint a'i gwmpas, os bydd ar yr un pryd yn annhaclus ac afler. Yn yr ystyr yma y mae'r syniad o wybedyn yn fwy na'r un o abwydyn- y dderwen yn fwy na'r mynydd, y frongoch na'r dderwen, a dyn na'r byd. Er nad pob un ag a fedr gyfansoddi gwaith bychan perffeithgwbl sydd hefyd yn feistr—gydag ymdrech a dyfalbarhad mwy—gyda'r cyfanwaith mawr, y mae'n un mor wir fod eisiau athrylith o fath neilltuol i ddwyn i fod y bydysawd bychan perffaith ynddo ei hun. Nid yr un fel rheol sy'n gampwr gyda'r stori fer a'r un faith. Dywedir am Schumann ei fod yn feistr yn ei ddarnau byr, ac am ei weithiau mawr, mai nifer o ddarnau byrion wedi eu gosod wrth ei gilydd ydynt. Ni chaniatai iechyd Grieg (yr hwn oedd o ran pryd a gwedd yn debyg i Parry) iddo