Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymgymeryd â gweithiau mawr, ond yr oedd ganddo ddawn neilltuol i "ddyhidlo" cerddoriaeth fel diferiad diliau mêl. Nid yw rhai o'i ddarnau i'r berdoneg ond tudalen neu ddwy o hyd, ond y maent yn annhraethol uchel o ran prydferthwch a phurdeb.

Yr anhawster yn aml i'r cerddor yw sicrhau'r unoliaeth a'r amrywiaeth angenrheidiol mewn geiriau cymwys. Yr oedd Wagner yn fardd a cherddor, fel yn yr hen amser, a mwy na hynny, cyfansoddai y geiriau a'r gerddoriaeth yr un pryd. Buasai cyfansoddi'r geiriau'n gyntaf a'r gerddoriaeth wedyn, meddai ef, yn golygu iddo gael ei ysbrydoli ddwywaith gan yr un testun, yr hyn na fedrai arno. Y peth nesaf at hyn yw cael bardd a cherddor fo'n deall ei gilydd, ac yn cyfateb i'w gilydd, fel Gilbert a Sullivan. A rhaid cofio nad pob telynegwr fedr ysgrifennu libreto, a dwyn i mewn y symudiadau, y cyfuniadau, a'r cyferbyniadau angenrheidiol. Cafodd Parry gynhorthwy beirdd goreu Cymru, a'n beirniaid cerddorol a ddywed pa faint fu hwnnw, a pha ddefnydd wnaeth ef ohono. Nid yw "Blodwen" ac "Emmanuel" ond y cyntaf o ddwy gyfres o weithiau cyffelyb a fu o hyn allan yn arglwyddiaethu ei fywyd, ac a ddylai gael lle tebyg yn ei hanes. Fel rheol ymddengys un o'r naill gyfres yn ymyl un neu ragor o'r llall, yn amddiffyn i'r llall, neu, efallai, i dorri i lawr ragfarn yn erbyn y llall. Oblegid lle yr oedd posibilrwydd gwrthwynebiad Piwritanaidd i'r Opera, dangosai yr Oratorio fod yr awdur mewn cydymdeimlad ag ochr gadarnhaol y ffydd Biwritanaidd. Ymddangosant hefyd yn fuan ar ol sefydlu o'r awdur mewn lle newydd—"Nebuchadnezzar" ac "Arianwen" yn Abertawe, "Saul" A "Sylvia" yng Nghaerdydd—nid i alw sylw at ddyfodiad dyn o bwys i'r dref, mae'n amlwg, fel pibyddion laird Ysgotaidd, ond fel math ar warogaeth i'r dref, ac hefyd am fod yr awdur wedi cael hamdden i'w cyfansoddi cyn dod.

Cynrychiola'r ddwy gyfres ddwy wythïen o deimlad cryf a chyson yn yr awdur—sef y genedlaethol a'r ysbrydol; ac fel yr oedd gan Gladstone ddwy ffenestr yn ei fyfyrgell a bwrdd ymhob un gyda defnyddiau ysgrifennu arno a roddai iddo fantais i newid ei safle a'i waith—yr oedd