Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan Parry hefyd ddwy ffenestr fawr a gloyw—bay-window—yn ei natur, un yn edrych at Dduw, a'r llall ar ddyn, heblaw un arall yn edrych at natur a'i hadar, a'i sêr, a'i thymestl, a'i thon, a dynnodd lai o sylw, ond oedd lawn mor swynol a'r lleill.

Yn hanes y genedl gwyddom nad "Emmanuel" yw ein traethgan gyntaf; ac efallai nad iawn galw "Blodwen" yn ddechreuad newydd, gan nad oes dim fel yn dilyn, ag eithrio operäu eraill Parry. Ynglŷn â hyn y mae'n iawn i ni gofio fod yna gyfnodau yn hanes yr ymwybyddiaeth genedlaethol fel ym mywyd yr unigolyn, ac y rhaid i wahanol ffurfiau cân gael eu hadeg eu hun. Ni ellir gwthio ysgerbwd henafgwr i blentyn, a cham dybryd yw treio. Efallai bod cyfnod yr Opera heb ddod—neu wedi pasio?

Bid a fynno am hynny, derbyniwyd "Blodwen" ar y pryd fel pe bai cyflawnder ei hamser wedi dod. Ni fu erioed y fath frwdfrydedd: nid oedd na Phiwritan na Phresbyter na Pherson a safai yn erbyn y llif. Yr oedd y peth mor newydd, mor ffres, mor ddieithr, mor swynol, fel yr hanner gwallgofai y lluoedd. "Chwifiai y bobol eu cadachau yn yr awyr; curent ddwylo; a bloeddient mor uchel nes yr oedd yn rhaid i'r cerddor dysgedig fegio arnynt adael i'r gwaith brysuro yn ei flaen." Profai hyn o leiaf y gall y werin werthfawrogi rhywbeth Heblaw "beastly tunes."

Dechreuwyd yn Aberystwyth yn hwyliog iawn, meddai Mr. David Jenkins. Yna aeth y "Côr Cynrychiol" o gerddorion Aberdâr, Mountain Ash, Castellnedd, ynghyda myfyrwyr y Coleg, dan arweiniad Mr. Rees Evans, ar daith drwy rannau o Gymru a Lloegr i berfformio "Blodwen" a "Jerusalem" (y rhan olaf o "Emmanuel"), a chyda'r amcan mwy neilltuol o roddi'r olaf yng Nghaergrawnt, er nad oedd hyn yn ofynnol er ennill y radd o Ddoethur mewn cerddoriaeth. Yr oedd ieuad "Blodwen" a "Jerusalem" yn ystod y daith hon fel yn arwyddocaol o uniad yr Opera a'r Oratorio yn hanes Parry hyd y diwedd. Meddai un beirniad am "Jerusalem": "Os na wallgofa y bobl, fe a'u gwna yn well: y mae mor ddysgedig, eto mor glir