HWFA MÔN.
YN ol dymuniad fy hen Gyfaill yr wyf wedi ymgymeryd a dwyn allan y Gyfrol Goffawdwriaethol yma iddo. Gall na fydd ynddi holl fanylion ei fywyd, ac erbyn hyn nid yw hyny yn cael ei ystyried yn hanfodol i Gofiant. Gwell o lawer yw cael adolwg cyffredinol ar ei fywyd, yn nghyd a'r gwersi hyny fydd o fudd i'r oesau fydd yn dilyn. Cymeriad eithriadol oedd Hwfa Môn, a chymeriad fu am fwy na haner canrif yn cymeryd lle amlwg yn mywyd y Genedl. Rhaid ei fod yn feddianol ar Athrylith uwchraddol i allu cadw ei le yn y front hyd derfyn ei oes, a hono yn oes faith. Llanwodd lawer cylch pwysig yn myd llenyddiaeth a chrefydd,. ac nid lle ailraddol lanwodd yn y naill a'r llall. Ca y gwahanol Ysgrifenwyr, sydd yn garedig wedi ymgymeryd a hyny, ei osod yn ei le priodol yn y gwahanol gylchoedd y troes ynddynt, ac ni ddymunem iddo le uwch nag a haeddai yn y naill a'r llall. Yr oedd wedi cychwyn ysgrifenu hanes ei fywyd ac wedi