Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gorphen dwy benod, sef un ar "Penygraig" ei gartref genedigol, a'r llall ar "Rhos Trehwfa" cartref ei faboed, ac nis gallwn lai na dodi y rhai hyny i mewn. Yr oedd wedi trefnu i Ysgrifenu tairarddeg eraill, ond daeth llaw angeu yn rhy drom arno cyn gwneud hyny. Y penodau eraill oeddynt,—Llangefni; y Dyffryn; Bangor; Ebenezer; Aber y Pwll; Y Bala; Bagillt; Brymbo; Bethesda; Llundain; Llanerchymedd; Llangollen a Rhyl. Rhaid i lawer peth fwriadodd ar gyfer y penodau hyny bellach fyned yn ngoll i ni. Sicr yw y buasai ynddynt lawer tamaid blasus.

Mae genyf i gyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf i'r oll o'r Ysgrifenwyr i'r Gyfrol, ac yn neillduol i'r Parch John T. Job, yr hwn yn garedig iawn a ymgymerodd a dethol y Farddoniaeth, ynghyd a chywiro y prawfleni.

1 Awst, 1907.

W. J. PARRY.