Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gychwyn dros y Benglog i Llanrwst y munud yma, neu mi rwyf fi yn myn'd? Ni chaiff fy mhobol i ddim bod heb bregethwr foru." Plediai Hwfa, a Mrs Williams, bob sut yn erbyn i'r naill na'r llall o honynt orfod myned ar y fath awr, dros y fath le, y fath bellder, ei fod ef wedi blino ar ol teithio o Lundain i Fangor, a cherdded o Fangor i Dolawen, 7 milldir o ffordd, ond ni ysgogai Scorpion. Rhoes ei Overcoat am dano, ei het am ei ben, ai Umberela yn ei law i gychwyn. Pan welodd Hwfa hyn rhoes i mewn, a chychwynodd rhwng un a dau o'r gloch yn y bore, a chyrhaeddodd Talywaen ger Capel Curig rhwng tri a phedwar y bore. Cododd y teulu. Yr oedd wedi llwyr ddiffygio, a gwnaeth Mrs Jones iddo fyned i'r gwely yno, a driviodd ef i Lanrwst erbyn oedfa y prydnawn. Ni fu fawr lewyrch ar bregethu Scorpion yn Bethesda y Sabboth hwnw.

Yr oedd yn neillduol garedig i Bregethwyr ieuanc. Yn ei adeg ef, yn Bethesda, codwyd tri i bregethu, sef y Parchn: Owen Jones, Mountain Ash; John Foulkes Aberavon; a William Williams Maentwrog; a gallai y tri fynegi am lawer tro caredig o'i eiddo iddynt ar gychwyn eu gyrfa. Pan yr oedd ef yn Weinidog yn Bethesda yr oedd yn yr Eglwys dri pregethwr cynorthwyol, sef Robert Jones; Luke Moses; a William Davies, a byddai yn ofalus iw dodi yn eu tro i wasanaethu yn yr Eglwysi dan ei ofal.

Hyd y terfyn yr oedd yn neillduol boblogaidd yn Bethesda gyda'r gynulleidfa, yr Eglwys, a'r gymdogaeth. Tra y bu yma cynyddodd y gynulleidfa a'r Eglwys. Cychwynodd achos newydd, symudiadau Llenyddol newydd yn y gymdogaeth, a theimlwyd colled fawr ar ei ol.

Teilwng i goffawdwriaeth Mrs Williams yw dweyd ei bod yn gymeradwy iawn gan yr holl frawdoliaeth yn Bethesda, yn dra gofalus o Hwfa ac yn garedig neillduol i'r tlawd, yr anghenus, a'r amddifaid yn ein plith.

Yr oedd ar delerau da ai Ddeaconiaid yn Bethesda tra bu yma. Dyma fel y Canodd ar ol rhai o honynt,—