Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pedwerydd 149. Gallasem yn rhwydd gyfeirio at ddigwyddiadau eraill brofai ei bwyll a'i ddoethineb mewn amgylchiadau dyrus.

Yr oedd yn neillduol ofalus am supplies da i lanw y Pwlpud yn ei absenoldeb. Cof genyf am un digwyddiad lled ddigrif ddigwyddodd gydag un o honynt, sef Scorpion. Yr oedd Hwfa yn supplio Fetter Lane, Llundain yn mis Mai 1867, yr hyn a ddilynwyd gan Alwad iddo oddiyno. Mae yn ymddangos fod Hwfa wedi trefnu, yn ol fel y mynai Scorpion, iddo ef ddod i Bethesda Sabboth Mehefin 9, ac i Hwfa ar ei ffordd gartref i fod yn Llanrwst. Y prydnawn Sadwrn blaenorol daeth Scorpion i Bethesda a galwodd yn Masnachdy Mr Robert Jones, Bookseller, a phan welodd Mr Jones ef gofynodd mewn syndod,—"Beth ydych chi yn wneud yma Mr. Roberts?" "Dyfod yma i supplio yn lle Hwfa foru." "Wel" meddai Mr Jones "Hwfa sydd wedi ei gyhoeddi yma, ond mae'n debyg mai wedi anghofio hysbysu y cyhoeddwr y mae." Felly tawelwyd. Aeth Mr. Roberts yn mlaen i Dolawen, a gwelai ar unwaith nad oedd Mrs Williams ychwaith yn ei ddisgwyl, ond yn ddoeth, fel y hi, gwnaeth ef yn gwbl gysurus, er ar yr un pryd yn teimlo fod rhyw ddyryswch, gan ei bod y bore hwnw wedi cael gair fod Hwfa yn dod adref gyda thrain hwyr y noswaith hono. Wedi swper aeth Mr Roberts i'r gwely, ond nis gallai gysgu gan fod yr argraff wedi dyfnhau gyda holiadau Mrs Williams fod rhyw ddyryswch yn bod. Yn fuan wedi haner nos clywai ddrws y front yn agor, a rhywun yn dod i mewn. Cododd i ddrws ei ystafell, a chlywai siarad distaw yn y passage, ac o dipyn i beth gwnaeth allan lais Hwfa. Rhoes ei ddillad am dano, ac aeth i lawr i'r gegin, lle yr oedd Hwfa mewn chwys mawr yn cael cwpanaid o de. Mewn ysbryd uchel gofynodd Scorpion,—"Hwfa, beth yw peth fel hyn?" "Wel Mr Roberts bach" meddai Hwfa "yr ydych wedi cam gymeryd y Sabboth, y Sabboth nesaf ddarfu mi ofyn i chwi" "Nage, Nage," meddai Scorpion "y Sabboth yma, y Sabboth cyntaf wedi i chwi ddod o Llundain ofynsoch i mi, ond waeth prun bellach beth ydych chwi yn myn'd iw wneud, a ydych chwi yn myned i