Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Swydd a'r cymwysderau iw llanw. Gyd ai fod yn eistedd i lawr cododd un o'r pregethwyr cynorthwyol ar ei draed a gofynodd am ganiatad i ddweyd gair cyn pleidleisio. Ar ol cyfeirio at adegau eraill pryd y codwyd blaenoriaid yno, y rhai yn ol ei farn ef oeddynt o'u hysgwyddau i fyny yn uwch na'r gweddill o'r Eglwys, ychwanegodd,—"Yr ydych wedi penderfynu codi pedwar? Pedwar o beth? Yr ydych wedi bod yn llawer rhy fyrbwyll yn penderfynu ar rif. Beth wnaeth i chwi ddod i benderfyniad i ddewis pedwar ? A welwch chwi bedwar? A welwch chwi dri? Welwch chwi ddau ? Prin y gwela i un. Cofiwch na wna pob math o aelod Ddiacon. Ynfydrwydd perffaith ydi i chi fyned yn nglyn a'u codi heb fod eu hangen, a bod rhai cymwys yn y golwg. Dylai y pedwar, neu y tri, neu y ddau, neu yr un fod yn amlwg ddigon i gorph yr Eglwys cyn penderfynau ar y rhif. Hoelion wyth ddylai Diaconiaid Eglwys fod, ond wela i ddim o'm blaen yn yr Eglwys yma yn awr ond sparblis, sparblis, sparblis. Peidiwch dewis sparblis o Ddiaconiaid!" Yr oedd y wich oedd yn ei lais pan yn gwawdio yn dwys—hau y diystyrwch gyd a pha un y llefarai y geiriau hyn. Erbyn iddo orphen yr oedd yr amser wedi cerdded yn mhell, a chododd Hwfa yn araf; ni chyfeiriodd o gwbl at yr araeth, yn unig dywedodd,— "Daethom yma heno yn ol penderfyniad Eglwysig gymerwyd yn bwyllog, ar ol gweddio ar Dduw am arweiniad, i daflu ein coelbren bleidleisiol yn newisiad pedwar Diacon, fel y gobeithiwn da eu gair a llawn o'r Ysbryd Glan.' Erbyn hyn mae yr amser wedi myned yn bell, a gohiriwn y gwaith hyd nos Fawrth nesaf. Bydded i bob un, i bob un, weddio o hyn hyd hyny am arweiniad. Nos Fawrth nesaf am saith o'r gloch, ar ol canu, darllen, a gweddio, awn yn gyntaf peth at y gwaith o ddewis pedwar Diacon. Ni a roddwn ein gofal i'r Arglwydd." Yr oedd yr Eglwys oll gyda Hwfa yn y cwrs gymerodd. Gwnaed fel yr hysbyswyd y nos Fawrth dilynol, y 24ain Ebrill 1866, a dewiswyd pedwar, ac y mae dau o honynt yn aros yn Ddiaconiaid hyd y dydd hwn. Allan o 278 bleidleisiodd y noswaith hono cafodd y cyntaf 275; yr ail 273; y trydydd 248; a'r