Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heibio iddo o'r tu ol gan daro ei law yn sydyn ar ei ysgwydd nes startio yr hen wr. Meddai Hwfa,—"Wel William Jones, a oes genych brofiad adroddwch chi i ni heno? Yr ydych yma mor gyson a neb. Beth bynag fydd y tywydd, a phwy bynag fydd ar ol, yr ydych chi yma'n wastad. Yr ydych wedi clywed llawer ac amrywiol brofiadau yn y blynyddoedd meithion y buoch yn aelod yma; ac yr ydych wedi myned trwy lawer tywydd blin sydd yn magu profiad. Mi fyddaf yn clywed y byddwch yn y bore glas, cyn pedwar o'r gloch, i fyny ar y mynydd gyd a'ch cawell; ac ar ol caniad yn y chwarel yn yr hwyr yno drachefn. yn yr hwyr yno drachefn. Mae hyny yn profi fod eich diwydrwydd a'ch gofal am y byd yn fawr iawn." Gyd a bod y gair yna dros wefus Hwfa, a chyn iddo gael cyfle iw gymwyso, dyma yr hen wr yn codi ei wyneb yn sydyn at wyneb Hwfa gan ofyn, "A welwch chwi Mr Williams rhyw fai arna i am hyna ?" "Wel," meddai Hwfa yn bwyllus "Na wela i, ond—" "Wel, waeth gen i am ddim ond" meddai William Jones "eisio gwybod sy arna i, ydio'n bechod gofalu am y byd?" "Wel, nag ydi," meddai Hwfa,—"Wel, pirion ynte" meddai William Jones, gan ddropio ei ben i lawr ar ddrws ei set i orphen ei nap, ac ymaith a Hwfa dan wenu.

Yr oedd ganddo ddigon o bwyll i gyfarfod a dynion anhydrin, ac amgylchiadau dyrus yn yr Eglwys, fel ag i fyned trwyddynt yn ddidramgwydd. Bu mwy nag un amgylchiad tra y bu yn Bethesda iw brofi yn y peth hwn. Gallaf gyfeirio at un o honynt. Wedi iddo gychwyn yr achos yn Treflys aeth dau o Ddiaconiaid Bethesda yno, ac yr oedd y nifer yn Bethesda wedi disgyn i 5; sef, John Pritchard; David Griffith; William Roberts; Griffith Rowlands; a Robert Williams. Penderfynodd yr Eglwys yn unfrydol yn Mawrth 1866 i godi 4 Diacon newydd, a rhoddwyd rhybudd o fis o hyny. Penodwyd ar yr 20ed Ebrill i wneud hyn. Daeth yn nghyd rhyw 300 o'r Aelodau ar y noswaith benodedig. Wedi dechreu y moddion hysbysodd Hwfa pa fodd y bwriedid myned yn mlaen gyd a'r dewisiad, gan wneud ychydig sylwadau ar waith y —