Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

-Edom." Buasai yn dda genyf allu cofio ei ddesgrifiad o'r arch yn Nhy Dagon. "Ac wele, Dagon, wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, ger bron arch yr Arglwydd, a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylaw, oedd. wedi tori ar y trothwy, corph Dagon yn unig a adawyd iddo." Yr oedd yn humorous nodedig, yn darlunio y Philistiaid yn gosod eu duw yn ei le drachefn, ac yn myned yno boreu dranoeth, ac er dirfawr syndod, wele Dagon y boreu hwnw, mewn gwaeth cyflwr nag o'r blaen, Crac yn ei ben, crac yn ei ddwylaw, crac ar ei draws, a chrac ar ei hyd, teyrnas y craciau."

Ni chynygiaf wneud elfeniad manwl o'i gymeriad fel pregethwr, mae hyny allan o'm cyrhaedd. Nid oedd ef mwy na rhyw bregethwr arall i fyny a safon beirniadaeth pob un. Clywais rai oeddynt wedi ei bwyso yn eu clorianau, yn dweyd yn ddifloesgni ddarfod iddynt eu gael yn brin. Ond pa le y ceir clorianau beirniadaeth anffaeledig gywir? Mae rhagfarn yn dylanwadu ar rai, ac y mae llawer yn dibynu ar chwaeth a galluoedd. Rhaid cael athrylith i werthfawrogi athrylith. Dylai y bach yn enwedig fod yn ochelgar a phwyllus wrth anturio mesur a phwyso un mwy nag ef ei hun. Eto, ceir rhai o'r cyfryw yn ddigon rhyfygus i gynyg pwyso mynyddoedd mewn pwysau. Mynydd o athrylith oedd Hwfa Mon.

Dywed Dr. Burrell, New York, fod nifer o frodyr yn ymddyddan a'u gilydd am y diweddar bregethwr byd-enwog Dr. Talmage. Beirniadent ef yn rhydd iawn, a nodweddid ef gan rai o honynt fel " buffon," eraill fel "sensationalist," a'r lleill fel Mountebank." Yr oedd yr hen weinidog enwog a duwiolfrydig; Dr. Cuyler yn clywed yr ymddyddan, a throdd atynt, gan ddywedyd "Foneddigion, nid ydym yn ddigon mawr i siarad mor rhydd a hyn am Dr. Talmage. Gwn ei ddiffygion, wedi bod yn gymydog iddo am flynyddau, and he is head and shoulders above us all." Bu rhywun yn ddigon eithafol i alw pregethau Dr. Owen, tywysog y duwinyddion yn "Continent of mud." Ni ddeallais fod mwy o feirniadu ar Hwfa Mon, na rhyw bregethwr poblogaidd arall, ond pe buasai, ni fuasai i'w ryfeddu, gan ei fod gymaint ar ei ben ei hun, ac mor wahanol i bawb arall, o ran ei arddull.