Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

genyf ei fod yn helaethu ar y pwys o gael gwybod yr amgylchiadau dan ba rai y cyfansoddwyd Salmau, Hymnau, ac Odlau ysbrydol," fod hyny yn ychwanegu at eu dyddordeb. Yna rhoes ddarluniad of Ehedydd Ial" yn croesi y mynydd du, rhwng y Wyddgrug a Rhuthyn, mewn ystorm o fellt a tharanau, nes oedd esgyrn y mynydd yn clecian, ac mai yn yr amgylchiadau hyny y cyfansoddodd yr emynau. "Er nad yw'm cnawd ond gwellt &c." Yna wedi rhagymadroddi deugain munud-dywedai, "Cawn sylwi ar y Salm bob yn frawddeg." Yr oedd yr Hybarch Mr. Griffith, Caergybi, yn eistedd ar ei gyfer, yn y set fawr, gwelwn yr henafgwr parchedig yn estyn ei law at y Beibl oedd ar y bwrdd, a dechreuodd gyfrif y brawddegau, ac yna trodd i edrych yn awgrymiadol ar y cloc. Mewn rhyw fan ar y bregeth dywedodd sylw a gariodd ddylanwad mawr. Darluniai y tan-suddwr (diver) yn myned i lawr i'r dyfnderoedd ar ol y wreck, ac yn dyfod i fyny a darn o'r wreck, gyd ag ef, yn profi iddo fod yn y gwaelod. Yna dywedai am yr Iesu yn myned i'r gogoniant, a'r lleidr edifeiriol gyd ag ef, yn dangos iddo fod yn y gwaelod-yn y dyfnderoedd. Yr oedd hono yn un o'i oedfaon mwyaf grymus, ac yr oedd yn un o'r rhai hwyaf o'i eiddo. Yr oedd y pregethwr yn nghanol ei afiaeth, pan lifai y tyrfaoedd i'r maes at yr oedfa haner awr wedi naw. A'r dyrfa oedd yn y capel yn rhuthro ar eu cythlwng i chwilio am ryw damaid, gan ei bod yn amser myned i'r oedfa arall.

Pregethodd drachefn ar y maes am ddau y prydnawn, ei fater ydoedd:-Yr arch, ei gwrhydri a'i rhyfeddodau; pryd y daeth heibio i dy Obed-Edom, a Duw yn ei fendithio er mwyn yr arch. Rhoddai un sill yn rhagor at enw Obed-Edom, a dywedai Obed-Ed- Edom "Obed-Ed-Edom, dyna i chwi air tlws, Obed-Ed-Edom, mae o fel y diliau mel, Obed-Ed-Edom, mae o yn goglais clustiau y cerdd-or-ion yma. Obed-Ed-Edom, yr oedd gwartheg Obed-Ed- Edom yn brefu Hosanna, a'r merched wrth eu godro, dip, dip, dip, dim diwedd ar eu llaeth. Yr oedd yd Obed-Ed-Edom yn edrych dros y cloddiau, ac yn dweyd-welwch chwi ni, ŷd Obed-Ed