Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd ei safiad yn y pwlpud yn urddasol, safai yn syth, fel nad oedd berygl i'r meginau a'r peirianau llafar gael cam. Nid oedd ei draed yn cynyg ysgog" o'r un man, er fod ei gorph a'i ben a'i ddwylaw yn symud. Dechreuai mewn cywair isel, ond yn glir, gan dori ei eiriau yn groew, a gallaf eto gyfeirio at yr hyn a ddywed ef yn ei Englynion i John Elias, ai gymhwyso yn dra phriodol ato ef ei hun—

"Geiriai ei destyn rhagorol,—yn glws,
Yn glir a phwysleisiol;
Seiniaw pob gair yn swynol,
Oll a wnai heb sill yn ol."

Llefarai yn bwyllus ac arafaidd ar y dechreu, ond nid oedd byth yn drymaidd a llusgedig. Byddai rhywbeth yn ei aceniad a'i bwysleisiad, i ddeffro sylw, ac i greu sirioldeb, ar y cychwyn; ac yr oedd ei ragymadrodd mor ddyddorol, fel na welid llygaid yn gwibio, na gwrandawr yn gapio. Condemnid ef gan rai am fanylu yn ormodol, ond yr oedd ef yn medru gwneud hyny yn ddyddorol, ac heb ddiflasu y gynulleidfa.

Ceid ynddo nodau yr "areithiwr hyawdl." Yr ydoedd ei agweddau (gesture) yn deilwng o'r areithyddiaeth aruchelaf. Nid oedd dim yn ei ystumiau yn ymylu ar fod yn ddichwaeth, ac anaturiol. Weithiau, byddai yn ddistaw am ychydig, a llefarai wrth y gynulleidfa drwy ei symudiadau corphorol, a gwnai hyny, fel y deallent of mor berffaith a phe dywedasai wrthynt mewn geiriau. Fel y dywedir am Elias o Fon, fod—

"Hyd yn nod ei atal dywedyd
Yn gyfrwng o hyawdledd cu."

gellir dweyd am Hwfa Mon, fod agwedd ei gorph, ysgydwad ei ben, a symudiad ei law, yn llefaru yn effeithiol. Os am blanu y soniai, yr oedd mor naturiol a hwylus yn darlunio y planwr, nes oeddych. fel yn gweled y gweithiwr wrth ei orchwyl yn y blanhigfa. "Paul