Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn planu." "Dyma blanwr!" meddai, "Y mae ambell blanwr fel pe byddai gwenwyn yn myned oddiwrth ei ddwylaw i'r ddaear, at wraidd y pren." Os soniai am bysgota, ceid ei weled yn ymaflyd yn yr enwar, ac yn taflu y line, unwaith, dwywaith, mor gelfydd, nes oeddych bron a dychmygu gweled y bluen yn disgyn ar y dwfr.

Mae rhai yn proffesu bod mor feddylgar, fel nad ydynt yn gofalu dim am lais, na dawn, na dull y pregethwr, ond iddynt gael mater. Os oes rhywrai i'w cael nad oes gan areithyddiaeth ddylanwad arnynt, prawf o ddiffyg yw hyny. Ceisiai rhyw lanciau direidus yn y Chwarel, argyhoeddi yr hen bregethwr diniwed Elias Morris, Bettws y Coed, ei fod cystal pregethwr a Hiraethog "I'e" ebai yntau "ond fod ganddo ef ryw ffordd o ddeud." Yr oedd gan Hwfa Mon "ffordd o ddeud" hollol ar ei ben ei hun, a theilwng o'r athrylith ddisglaer a gafodd.

Yr oedd ganddo drefn a chynllun yn ei bregethau. Pregeth heb gynllun, nid yw ond rheffyn o eiriau, neu gasgliad o frawddegau, tebyg i'r mob yn Ephesus, y rhai "ni wyddent o herwydd pa beth y daethent yn nghyd." Ymddangosai i rai weithiau fel pe buasai yn myned yn bell oddiwrth ei fater, ac yn dweyd pethau amherthynasol, ond camgymeriad fuasai tybied hyny am dano. Mae yn nodweddiadol o athrylith ei bod yn fynych yn cymeryd wib, tra mae talent fechan yn troi mewn cylch bychan, yn yr un man, fel ceffyl malu barc.

Gallaswn hefyd grybwyll am yr humour oedd ynddo, yr ydoedd yn llawn o hono. A phrofedigaeth un felly ydyw ei gamddefnyddio. Ond ymgadwodd ef yn rhagorol, heb fod yn euog o hyny. Mae rhai yn eithafol wrthwynebol rhag gwneud unrhyw ddefnydd o hono yn y pwlpud, mae eraill yn barnu y gellir gwneud defnydd cyfreithlon o hono er mantais i'r gwirionedd. Mae rhai o'n prif bregethwyr wedi gwneud hyny. A'r rhai mwyaf medrus i gynyrchu gwên ddymunol,