Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel rheol, ydyw y rhai a wyddant oreu ffordd y dagrau hefyd. Ond y mae ysmaldod a chellwair yn anheilwng o'r lle cysegredig y saif y pregethwr ynddo.

Heb ymhelaethu, gallaf grybwyll fod y gwrthrych wedi etifeddu y pethau y cyfeiriais yn fyr atynt, yn nghyd a phethau eraill allesid enwi, yr hyn a barai iddo gael ei ystyried yn Dywysog a gwr mawr fel Pregethwr. Cefais lawer o gyfleusderau i ymgydnabyddu ag ef, fel dyn a phregethwr, fel dyn yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diniwed, a llawnaf o garedigrwydd, a adwaenais erioed. Nid diffyg manteision. i'w adnabod yn well, ydyw y rheswm na allaswn ysgrifenu yn well am dano. A diau y gwneir hyny gan frodyr mwy profiadol a galluog.

Bydd ei enw fel bardd a llenor, ac fel pregethwr a darlithydd, mewn bri, tra parhao iaith, llenyddiaeth, a chrefydd Cymru.