Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pennod IX.

FEL DARLITHYDD.

GAN Y PARCH. D. EVANS, CAERFYRDDIN.

GWNAETH Hwfa enw iddo ei hun fel pregethwr a bardd, flynyddoedd, rai cyn dyfod allan yn ei gymeriad o ddarlithydd. Ceir lluaws yn bregethwyr a beirdd campus heb feddu o gwbl ar anhebgorion darlithwyr. Rhaid i ddyn gael ei eni i hyn, fel pobpeth y myn ragori ynddo. Meddai ein gwron ar yr anhebgorion. a ganlyn. Personoliaeth urddasol—darfelydd a chrebwyll y bardd,—edmygedd brwdfrydedd—dynwarediad llais allai dori fel trwst taran dros y tiroedd;" a thynherwch allai ddisgyn i gilfachau dyfnaf y galon, a gwyneb allai wisgo gwg deifiol at yr atgas, a gwên gorfoledd at y dymunol. Yr oedd ganddo hefyd gyflawnder o iaith a medr. dihafal i roddi ei phriodol sain i bob llythyren a silleb yn yr