Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr ydwyf fi yma heno i ddywedyd, nid yr hyn a brofodd y galon hon (gan gyfeirio at galon y Cadeirydd) yn America, ond yr ydwyf fi yma, Meistr Detective i ddywedyd yr hyn a deimlodd y galon hon yn America (gan gyfeirio at ei galon ei hun). Erbyn hyn, yr oedd y gynulleidfa wedi ymgolli mewn difyrwch a hwyl a neb yn mwynhau y tipyn ysmaldod, yn fwy na'r Cadeirydd ei hun.

Rhaid dyweud fod y ddarlith yn nodedig o ddyddorol, er nad mor orchestol a'r un y caf yn nesaf gyfeirio ati, sef, yr un "Farddoniaeth." Addefa pawb mai bardd oedd Hwfa yn fwy na dim. Pa un bynag a'i pregethu neu ddarlithio, mynai y bardd ddyfod yn amlwg i'r golwg—yn creu talpiau o ddrychfeddyliau ac yn cordeddu cynghanedd mor naturiol ag anadlu. Felly yr oedd yn ei elfen gyd a'i ddarlith ar Farddoniaeth," a theimlid fod ganddo awdurdod i lefaru, ac fel un ag awdurdod y llefarai hefyd.

Wedi rhoddi deffiiniad o farddoniaeth—y gwahaniaeth rhwng barddoniaeth a barddoniaeth—lle barddoniaeth mewn llenyddiaeth. —gwasanaeth barddoniaeth uwch raddol mewn moes a chrefydd— barddoniaeth gwahanol genhedloedd,—ac wedi dod at farddoniaeth yn hanes Cymru, argyhoeddid pawb ei fod gartref. Olrheiniai farddoniaeth o ddyddiau yr hen feirdd, hyd yr oes hon, a rhoddai engrheifftiau, ac yr oedd ei adroddiadau yn wir feistrolgar, a synasai llawer o'n prif—feirdd, fod cymaint yn eu gwaith pe clywsant "Hwfa" mor fedrus yn eu hadrodd.

Trwy garedigrwydd y golygydd, rhoddaf yma engrhaifft a ddengys "Hwfa" yn ei afiaeth a'i ogoniant ar y llwyfan. Pan urddwyd y diweddar Barch. John Foulkes yn Nhyddewi yn Ngorphenaf 1868, aeth golygydd y cofiant gyd a'i gyfaill i'r urddiad, a daeth "Hwfa" yno o Lundain, fel hen weinidog i Mr. Foulkes, pan yn gweinidogaethu yn Bethesda. Manteisiodd eglwys gyfagos ar yr amgylchiad i gael y ddarlith gan "Hwfa" ar "Farddoniaeth."! Nid enwaf y cadeirydd. Digon dyweud ei fod yn weinidog parchus a galluog, ond ni feddyliodd neb fod gwreichionen o farddoniaeth yn perthyn i'w natur,—math o athronydd—dduwinydd yr ystyrid ef