yn rhesymu ei bregeth mor fanwl a phe yn myned trwy broblem yn Euclid. O ddyn mor gall, y syndod yw iddo syrthio i gam— gymeriad aml i gadeirydd llai, drwy fyned yn ei araeth agoriadol i faes y darlithydd,—bwyta ei amser, a thraethu yr hyn na wyddai ond y nesaf peth i ddim am dano.
Cyfeiriodd at y testyn, ac at y darlithydd, gan awgrymu, y ceid, yn ddiau, lawer o bethau newydd iddynt hwy yn Sir Benfro, gan y Bardd o'r Gogledd; ond nad oedd y Gogleddwyr ddim i fyn'd adref dan y syniad nad oedd gan Sir Benfro ei Beirdd; ac yna rhoes adroddiad o waith rhai o honynt, y pethau mwyaf slip a glywyd. Ac wedi siarad ar y meithaf, troes at y darlithydd, gan awgrymu mewn cryn dipyn o hèr, yr hoffai ef glywed engrheifftiau gwell o farddoniaeth o waith gwyr y gogledd. Yr oedd yn eglur ar " Hwfa" ei fod wedi ei gynhyrfu, ac wedi i'r cadeirydd ei gyflwyno i'r gynulleidfa. Cododd, a safodd o'i flaen, gan foes ymgrymu ato yn y modd mwyaf mawreddus. A chan osod pwyslais ar bob sill a llythyren dywedodd—"Barchedig Feistr Gadeirydd; da genyf gael Bardd a Beirniad Barddoniaeth o radd uchel yn y gadair heno. Bydd yn help mawr i dipyn o Fardd o'r gogledd, pan yn trafod Barddoniaeth ei hen wlad. Cawsoch chwi fel cynulleidfa wledd amheuthyn, ac engrheifftiau nodedig o Farddoniaeth y sir hon. Ni buasid yn eu hadrodd ar amgylchiad fel hyn oni bai fod eich Cadeirydd yn credu fod ynddynt elfenau dyrchafol. Y ydym mewn mantais i farnu yr awdwyr a'r adroddwr wrth yr hyn a glywsom."
Yna aeth ymlaen at y ddarlith, a daeth i roddi engrheifftiau gwahanol o Farddoniaeth y Gogledd—Dechreuodd gyd a'r tyner toddedig yn y dull dihafal y medrai ef, nes hoelio pob clust a llygad yn y gynulleidfa ;—a thra yn adrodd, cerddai ol a blaen ar y llwyfan, gan fyned yn fynych tu ol i'r Cadeirydd.
Yna daeth at farddoniaeth mwy cynhyrfus, cafwyd darnau o awdl Caledfryn "Ar Ddrylliad y Rothsay Castle," Megis y darn sydd yn darlunio y llong a'r tonau yn golchi drosti, a dim ond dyfrllyd fedd yn aros ei theithwyr—rhai yn gwylltio, ac yn gwallgofi, eraill yn