Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drachefn mewn siomedigaeth. Y mae rhai yn fwy medrus i enill cyfeillion nag ydynt i'w cadw wedi eu henill. Ond yr oedd Hwfa yn ofalus ac yn meddu ar bob cymhwysder i gadw ei gyfeillion. Fel enghraifft o'i ofal yn hyn, gallaf grybwyll i mi tua phedair blynedd yn ol, dderbyn llythyr oddiwrtho yn dechreu ac yn diweddu fel hyn:

"Fy Anwyl Frawd
Dim ond gair i dori ar y distawrwydd ac er mwyn cadw yr
hen gyfeillgarwch . . . . Yr wyf wedi addaw myned i
Beddgelert y Pasg. Pa le y byddwch chwi? Hoffwn gael
golwg arnoch.

Byth yn bur


R. Williams."

Yr oeddwn ar y pryd wedi bod am rai misoedd heb ei weled ac heb fod dim gohebiaeth wedi pasio rhyngom, ond nid oedd ef yn foddlon ar i bethau fod felly a mynai anfon llythyr yn unig i "dori ar y distawrwydd." Nid yw rhelyw o'r llythyr yn cynwys dim a fuasai yn werth ganddo eistedd i lawr i'w ysgrifenu oni buasai ei fod am 'gadw yr hen gyfeillgarwch." Pe byddai mwy o ofal felly yn cael ei weithredu gan gyfeillion tuag at eu gilydd, caent lai o siomedigaeth yn eu gilydd nag a gânt yn fynych. Y neb y mae iddo gyfeillion cadwed gariad."

Yr ydys yn disgwyl mewn cyfaill gael un yn ffyddlawn. Nid oes neb yn werth i'w alw yn gyfaill os na theimlir yn ddiamheu am dano fel un y byddai yn ddiogel i'w ollwng i mewn megis i gysegr sancteiddiolaf ein mynwes. Y mae cael cyfaill—cyfaill yn ngwir ystyr y gair-un a ymddiriedo ac yr ymddiriedir iddo—yn gaffaeliad o'r gwerth mwyaf ac yn un o gysuron melusaf bywyd, a dyn i dosturio wrtho ydyw hwnw, yr hwn er fod ganddo lawer o gydnabyddion nid oes ganddo yr un cyfaill y gall ymddiried ei gyfrinach iddo. Cyfaill felly a gefais yn Hwfa. Ni chafodd yr un o'i gyfeillion achos i amheu ei ffyddlondeb erioed ac i edifarhau o herwydd ymddiried ynddo. Pell oedd efe o bysgotta cyfrinach ei gyfeillion. Yn wir mwy parod o lawer oedd i fynegi iddynt ei gyfrinach ei hun nag ydoedd o awyddus am wybod yr eiddynt hwy. Yr oedd yn hollol